Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn cynnig hwyl fforddiadwy dros benwythnos Calan Gaeaf

Hydref 30, 2026 |

Gweithgareddau arswydus munud olaf wrth i deuluoedd deimlo’r wasgfa

Mae amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru yn cynnig ffordd rhatach a gwyrddach o ddathlu’r penwythnos hwn, gyda dwsinau o lwybrau, crefftau a sesiynau adrodd straeon munud olaf am ddim cyn i Ŵyl Amgueddfeydd Cymru ddod i ben ddydd Sul 1 Tachwedd.

Gyda Chalan Gaeaf bellach yn costio £209 ar gyfartaledd i deuluoedd, canfu ymchwil a gyhoeddwyd y mis hwn ar ran Asda fod mwy na hanner oedolion y DU yn ystyried gwario ar Galan Gaeaf yn ergyd ddiangen mor agos at y Nadolig. Canfu arolwg ar wahân gan Savvy fod saith o bob deg o siopwyr Calan Gaeaf am nodi’r achlysur heb wario llawer.

Mae mwy na 60 o amgueddfeydd ac orielau yn cymryd rhan yn yr ŵyl eleni, gyda llawer yn cynnig gweithgareddau am ddim neu am bris isel, ac – mewn rhai achosion – does dim angen archebu. Gall teuluoedd hefyd gasglu llyfryn Calan Gaeaf dwyieithog yr ŵyl am ddim mewn mannau sy’n cymryd rhan. 

Dywedodd Dr Ken Griffin, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, sy’n trefnu’r ŵyl gydag arian gan Lywodraeth Cymru: “Eleni, mae mwy na 60 o amgueddfeydd yn cymryd rhan, y nifer uchaf ers i’r ŵyl ddechrau. Mae’r ŵyl yn arbennig o boblogaidd gyda theuluoedd, gan gynnig gweithgareddau am ddim mewn cyfnod o bwysau ariannol. Yn fwy na dim, dyma’r amser perffaith i ddarganfod eich amgueddfa leol.”

Mae’r elusen amgylcheddol Hubbub yn amcangyfrif bod saith miliwn o wisgoedd Calan Gaeaf yn cael eu taflu yn y DU bob blwyddyn. Mae hynny’n gyfystyr â thua 2,000 tunnell o wastraff plastig. Eleni, mae’r ŵyl wedi annog amgueddfeydd i gyfnewid gliter a phropiau plastig am ddeunyddiau naturiol ac wedi’u hailgylchu. Er enghraifft, yn Amgueddfa Sir Gâr, mae pob pwmpen ar y llwybr Calan Gaeaf wedi’i chrosio â llaw. Bydd plant sy’n cwblhau’r llwybr yn mynd â hadau pwmpen adref mewn pot bioddiraddadwy, gyda thystysgrif wedi’i hargraffu ar bapur wedi’i ailgylchu. 

Mae’r ymateb cynnar gan deuluoedd wedi bod yn wych, gydag ymwelwyr yn rhoi pum seren i’r ŵyl. “Roedd y plant wrth eu bodd, ac mae’n dda gweld gweithgareddau wedi’u hariannu ar gael eto,” meddai un rhiant yn Amgueddfa Caerdydd. Disgrifiodd un ymwelydd â Storiel ym Mangor y cyfan fel “Gwych o’r dechrau i’r diwedd!”, tra dywedodd un arall yn TimeScape Rhaeadr: “Braf a chynnes. Cymaint i’w weld mewn un ymweliad.”

Beth sydd ymlaen dros Calan Gaeaf, dydd Gwener 30 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd

Am fanylion llawn, ewch yn uniongyrchol at yr amgueddfa neu’r oriel dan sylw.

GOGLEDD CYMRU

CANOLBARTH CYMRU

DE CYMRU

GORLLEWIN CYMRU

Gall teuluoedd hefyd gasglu llyfryn Calan Gaeaf dwyieithog yr ŵyl am ddim mewn amgueddfeydd sy’n cymryd rhan, sydd wedi’u nodi â phwmpen 🎃 ar museumsfestival.wales