Arswydus, gwyrdd a’r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru

Hydref 18, 2026 |

Mae dros 60 amgueddfa ac oriel ar draws Cymru yn agor eu drysau yr hanner tymor Hydref hwn ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, a’r mwyafrif yn rhad ac am ddim. Eleni, mae yna naws mwy gwyrdd i Galan Gaeaf hefyd.

Canhwyllau brwyn a gorymdaith llusernau ysbrydol ym mwthyn crydd. Draig gopr 20 troedfedd yn disgwyl yn mhen twnnel.  Blychau ystlumod mewn hen bwll glo yn Y Rhondda.

Croeso i Ŵyl Amgueddfeydd Cymru, sy’n rhedeg o ddydd Sadwrn 24 Hydref tan ddydd Sul 1 Tachwedd.

Nawr yn ei 12fed flwyddyn, trefnir yr ŵyl gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.  Mae lleoliadau mewn trefi, pentrefi a dinasoedd ar draws Cymru yn cynnal digwyddiadau, gyda llawer ohonynt ar y thema Calan Gaeaf.

Pam mae eich hymweliad yn bwysig

Mae llawer o’r lleoliadau sy’n cymryd rhan yn rai bach, annibynnol sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, fel Amgueddfa Porthcawl yn hen swyddfa’r heddlu ar John Street. Maent yn cadw’r storïau na ddewch chi ar eu traws mewn unrhyw gasgliad cenedlaethol: y ffotograffau, celfi, llythyrau ac eitemau pob dydd a roddwyd gan deuluoedd lleol.

Ac maent angen ymwelwyr. Yn ôl Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd Llywodraeth Cymru:

  • Mae mwy na hanner amgueddfeydd achrededig Cymru’n croesawu llai na 10,000 o ymwelwyr y flwyddyn
  • Mae 86% o’r gweithlu mewn amgueddfeydd annibynnol yn wirfoddolwyr
  • Dim ond 80% o’r niferoedd ymwelwyr sy’n ymweld ag amgueddfeydd annibynnol  o gymharu â’r lefelau cyn y pandemig.

Mae pob taith drwy eu drysau yn helpu i gadw storïau yn fyw ar gyfer y genhedlaeth nesaf. 

Calan Gaeaf mwy gwyrdd

Amcangyfrifir bod saith miliwn o wisgoedd Calan Gaeaf yn cael eu taflu i ffwrdd ym Mhrydain bob blwyddyn, yn ôl yr elusen amgylcheddol Hubbub. Ychwanegwch gliter, propiau plastig ac addurniadau cynhyrchion untro ac mae’n cronni’n gyflym.

Felly eleni mae’r ŵyl yn annog pawb tuag at ddail yr hydref, hadau a deunyddiau naturiol. Mae’r lleoliadau wedi dilyn yr arweiniad hwn: meddyliwch am ganhwyllau brwyn, blychau ystlumod, creaduriaid wedi’u hailgylchu, llusernau helyg a lliwiau naturiol.

“Mae hefyd yn ffordd wych i deuluoedd i gymryd rhan yn eu diwylliant a’u hunaniaeth lleol, am ychydig neu ddim cost.”  Heledd Fychan, Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon 

Pedwar newid hawdd ar gyfer eich Calan Gaeaf eich hun

  • Crëwch, peidiwch â phrynu. Lapiwch hen ddefnydd i greu mymi, neu droi dillad du yn gath gwrach. Yn prynu? Ewch am eitemau ail-law a’u pasio ymlaen wedyn.
  • Anghofiwch y gliter. Mae’n ddarnau bach, bach o blastig. Ar gyfer disgleirdeb, cymysgwch liw bwyd gyda thywod, halen y môr neu siwgr.
  • Edrychwch i natur. Mae dail sydd wedi syrthio, brigau, hadau a blodau wedi sychu yn gwneud addurniadau gwych. 
  • Bwytwch eich pwmpen. Gwnewch gawl o’r cnawd, a rhostio’r hadau gyda menyn wedi toddi, sinamon, pinsiad o halen ac ychydig o siwgr.

Naw dewisiad hanner tymor

“Mae darganfod eich hamgueddfa neu oriel leol yn ffordd hyfryd i dreulio amser gyda’ch plant dros hanner tymor mis Hydref, yn enwedig os cawn ein hanner tymor glawog traddodiadol!” Carly Davies, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru

Mae’r rhan fwyaf o leoliadau hefyd yn rhoi rhoddion yr ŵyl yn rhad ac am ddim (llyfrynnau gweithgareddau, pensiliau a sticeri) tra mae stoc ar gael.

Canolbarth a Gorllewin Cymru

AmserWedd, Rhaeadr

Cropiwch drwy dwnnel i mewn i Ogof Y Ddraig i gyfarfod y Frenhines Belrenin, draig gopr 20 troedfedd. Daw Gŵyl Y Ddraig Rhaeadr â chrefftau, llwybrau, dweud storïau, gwneud cymysgeddau hud a rasio dreigiau, a noson o adrodd storïau Oes Fictoria ar gyfer oedolion.

24 a 27–31 Hydref · Am ddim yn ystod wythnos yr ŵyl

Amgueddfeydd CofGâr, Sir Gâr

Teithiau llên gwerin, drama iasol ac Ysgol Ddewiniaeth yn Amgueddfa Sir Gâr, Abergwili. Yn Amgueddfa Parc Howard, Llanelli, bydd Adam yn yr Ardd yn dilyn pwmpen o’r hadyn i’r plât (30 Hydref).

29–31 Hydref · Manylion a thocynnau ar wefan CofGâr

Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

Defnyddiwch argraffu-sgrin ar hen grys-T du i’w droi’n wisg sgerbwd, adeiladwch dai cof o gardbord, neu ymunwch mewn penwythnos o weithdai creu llyfrau ar gyfer oedolion. A hyn i gyd ymhlith gwaith celf gan Monet, Gwen John a Barbara Hepworth.

27–28 a 31 Hydref · £3–£7.50 · Mae angen bwcio

Gogledd Cymru

Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam, Wrecsam

Amgueddfa ddiweddaraf Cymru, a agorwyd ar 25 Medi yn y ddinas ble sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1876. Gweithdai, teithiau a chrefftau ar gyfer cefnogwyr ifanc.

Hanner tymor, 10am–5pm · Tocynnau am ddim, mae angen bwcio

Amgueddfa Syr Henry Jones, Llangernyw, Conwy

Crëwch ganhwyllau brwyn a llusernau, yna ymunwch mewn gorymdaith ysbrydol y cyfnos, ac wedyn rhannu cawl cymunedol. Peidiwch â methu yr Ywen Llangernyw hynafol y drws nesaf.

24 a 28 Hydref · Am ddim · Mae angen bwcio

Oriel Môn, Llangefni, Ynys Môn

Crëwch lusern helyg ddisglair, dyfeisiwch greaduriaid o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a helpu i adeiladu Ysgol Arswyd. Anogir gwisgo i fyny.

27 a 29–30 Hydref · Llusernau £5, sesiynau eraill am ddim · Bwcio yn hanfodol

De Ddwyrain Cymru

Amgueddfa Crochendy Nantgarw, ger Caerffili

Crëwch greaduriaid potyn pinsio a mygydau o glai go iawn yn y ffatri crochenwaith 19fed ganrif olaf yn y Deyrnas Unedig. Oedran 11+ gydag oedolyn.

29 a 31 Hydref · Sesiynau clai am ddim, mae angen bwcio

Amgueddfa ac Oriel Casnewydd

Crefftau Calan Gaeaf galw i mewn gyda’r artist Lucilla Jones ar gyfer 3–10 oed. Yna, chwilota am y drysau tylwyth teg cudd.

Dydd Mercher 28 Hydref · Am ddim, dim angen bwcio

Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod

Adeiladwch flychau ystlumod ar gyfer yr ystlumod sydd nawr yn byw yn yr hen fwyngloddiau (27 Hydref). Gall y rhai mwy dewr gymryd rhan yn y Rhialtwch Calan Gaeaf yn y mwynglawdd tanddaearol segur (28–30 Hydref).

Blychau ystlumod am ddim, mae angen bwcio · Rhialtwch o £17.50 ar gyfer un oedolyn ac un plentyn

Cynlluniwch eich hanner tymor

  • Pryd: Dydd Sadwrn 24 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd
  • Ble: 50+ amgueddfa ac oriel ar draws Cymru
  • Cost: Mae llawer o ddigwyddiadau am ddim; mae angen bwcio ar gyfer rhai
  • Cofiwch: Mae’r dyddiadau a’r amseroedd agor yn amrywio, felly gwiriwch gyda’r lleoliad cyn teithio

Gweler y rhaglen lawn yn museumsfestival.wales

Ychwanegir fwy o ddigwyddiadau drwy’r amser. Dilynwch #WalesHistoryTrails a #LlwybrauHanesCymru am ddiweddariadau.