Grantiau

Cynlluniau Grantiau Bach a Datblygiad Proffesiynol a Chynadleddau.

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn galluogi’r Ffederasiwn i ddarparu dwy rownd grantiau bach y flwyddyn. Uchafswm y grant yw £10,000 (gwanwyn) a £3,000 (hydref).

Mae tri aelod o bwyllgor annibynnol y Ffederasiwn yn asesu’r ceisiadau (gan roi’r flaenoriaeth i gefnogi prosiectau llai) yn erbyn ystod o feini prawf o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, safonau Achredu a Blaengynllun yr amgueddfa. Rydym hefyd yn lansio ein cynllun grant Datblygiad Proffesiynol a Chynhadledd.

I wneud cais am grant, rhaid i ymgeiswyr fod yn aelod o’r Ffederasiwn a bod yn amgueddfa achrededig (neu’n gweithio tuag at achrediad).

Mae grantiau eleni ar gael nawr – y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am grantiau bach yw 24ain Mai 2024

Mae’r cynllun hwn wedi’i wneud yn bosibl gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru drwy’r Is-adran Ddiwylliant, a chyda chymorth Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.

Cymhwysedd Datblygiad Proffesiynol a Chynadleddau

Ffurflen gais Datblygiad Proffesiynol a Chynadleddau

Gwybodaeth Grantiau Bach 2024-2025

Ffurflen Gais Grantiau Bach 2024-2025