Lansio ’20 Cam tuag at Ofalu am Gasgliadau mewn modd Cynaliadwy’

April 17, 2024 |

Mae Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru yn falch o allu cyhoeddi canllaw ar ofalu am gasgliadau mewn modd cynaliadwy: rhestr syml a difyr o gamau y gall pob amgueddfa eu cymryd er mwyn gwella gofal a chynaliadwyedd eu chasgliadau!

Gallwch ddod o hyd i daflenni a phosteri dwyieithog i’w lawrlwytho a’u hargraffu yma:
https://museumsfederation.cymru/resource-type/collections/

Os ydych chi’n ddigon ffodus i allu mynd i gyfarfod Cymru Cymdeithas yr Amgueddfeydd ddydd Iau, fe gewch gopi papur o’r poster ar y diwrnod. Rydyn ni’n gobeithio eich gweld chi yno!

Cafodd y canllawiau eu hysgrifennu gan Jane Henderson a Megan DeSilva, a’u darlunio gan Jenny Mathiasson.