Gwefan y Ffederasiwn – prosiect Llywodraeth Cymru ar Ddatgarboneiddio

February 13, 2024 |

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu tystiolaeth ar ddulliau’r sector diwylliant o fynd i’r afael â materion hinsawdd a byd natur.

Mae Regen, mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Garbon a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, wedi’u comisiynu i gynnal ymchwil ar y sector, casglu tystiolaeth gan randdeiliaid o bwys a chyflwyno awgrymiadau ar gyfer cynllunio at y dyfodol. Mae angen i randdeiliaid y sector diwylliant, gan gynnwys amgueddfeydd, gwasanaethau archifau, llyfrgelloedd, sefydliadau Portffolio Celfyddydau Cymru a safleoedd amgylchedd hanesyddol, gymryd rhan yn y prosiect hwn. Mae arolwg wedi’i ddatblygu i gofnodi tystiolaeth feintiol. A fyddech gystal os gwelwch yn dda ag ymateb i’r arolwg os ydych yn gweithio mewn amgueddfeydd yng Nghymru ac yn gallu ateb cwestiynau am brosesau strategol a gweithdrefnau gweithredol eich amgueddfa o ran cymryd camau ar newid yn yr hinsawdd a sero net. Bydd eich mewnbwn gwerthfawr yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru wrth benderfynu ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi’r sector i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a byd natur.

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg yw 18 Chwefror 2024.

Gallwch ddod o hyd i’r arolwg yma:

Arolwg (Cymraeg): https://form.typeform.com/to/zOX865xK

Arolwg (Saesneg): https://form.typeform.com/to/pefCTWCg