Yn dilyn adroddiadau am ostyngiadau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol, cyrff a noddir gan y llywodraeth megis Amgueddfa Cymru, ac adrannau’r llywodraeth, mae’r Ffederasiwn wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog ynghylch y cymorth ariannol a chymorth arall y mae’r aelod-amgueddfeydd wedi’i gael gan ei Hadran Ddiwylliant (Tîm Amgueddfeydd). Mae’r llythyr llawn ar gael ar y wefan hon.