Hyfforddiant ar-lein gyda Casgliad y Werin Cymru

Hydref 14, 2026 |

Gwneud y gorau o’ch casgliadau, yn yr amser sydd gennych

Mae amgueddfeydd ac orielau Cymru yn rheoli oriau agor, ymwelwyr, gwirfoddolwyr, arddangosfeydd a therfynau amser ceisiadau am gyllid, yn aml gydag adnoddau a staff cyfyngedig. Mae digideiddio casgliadau, meithrin cynulleidfa a llywio hawlfraint yn waith gwerthfawr, ond anaml y mae’n hawdd ei ffitio i amserlen sydd eisoes yn llawn, er bod gan bob amgueddfa ac oriel yng Nghymru straeon sy’n haeddu cael eu clywed.

Mae Casgliad y Werin Cymru (CyW) yma i’ch cefnogi. Mae’n bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n blatfform dwyieithog, di-dâl sy’n helpu amgueddfeydd ac orielau o bob maint i rannu eu casgliadau â chynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi sesiwn gyflwyniadol 90 munud i unrhyw un sy’n gweithio mewn amgueddfeydd ac orielau yng Nghymru, neu’n eu cefnogi. Wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sydd ag ychydig iawn o amser i’w sbario, mae’n cynnig trosolwg cryno o’r cymorth sydd eisoes ar gael, fel nad oes rhaid i chi ddechrau o’r dechrau.

Sut y gall CyW helpu

  • Arweiniad arbenigol, am ddim. Cyngor wedi’i deilwra ar ddigideiddio, metadata, hawlfraint a diogelu data, ynghyd â hyfforddiant hanes llafar a benthyciadau offer am ddim.
  • Cefnogaeth i geisiadau am gyllid. Llythyrau cefnogi, gan gynnwys ar gyfer ceisiadau i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
  • Casglu moesegol a chynhwysol. Cyngor ymarferol sy’n defnyddio Pecyn Offer Dad-drefedigaethu CyWC.
  • Cynulleidfa ehangach. Hyrwyddo drwy sianeli digidol CyWC, gydag adroddiadau ystadegol i ddangos eich cyrhaeddiad a’ch effaith.
  • Lle yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r holl gynnwys rydych yn ei uwchlwytho i’w gael gan ysgolion ledled Cymru drwy Hwb, a gallwch gyfrannu adnoddau dwyieithog, wedi’u mapio i Gwricwlwm i Gymru, i’r adran Dysgu.
  • Cyfraniad ystyrlon. Gallai’ch deunydd gael ei gynnwys yn yr Archif Cof, sy’n cefnogi gwaith hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia.

Ymunwch â ni ar Microsoft Teams

  • 24 Tachwedd, 14:00–15:30: sesiwn Saesneg
  • 25 Tachwedd, 09:30–11:00: sesiwn Gymraeg

Treuliwch 90 munud gyda ni a gadewch gan wybod yn union ble i ddechrau. Ar agor i bob aelod o staff a gwirfoddolwr.

Cofrestrwch nawr ar Eventbrite drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/cyw-gwneud-y-gorau-och-casgliadau-yn-yr-amser-sydd-gennych-tickets-2002997973859?aff=oddtdtcreator