Ymunwch ag Amgueddfa Bêl-droed Cymru am sgwrs Nos Galan Gaeaf iasol fydd yn archwilio hanes macabre pêl-droed Cymru. Byddwn yn rhannu straeon arswyd hollol wir sydd wedi eu troi’n fyw gydag ychydig bach bach o ryddid creadigol.
Archebwch eich tocynnau am ddim nawr i sicrhau eich lle – nifer cyfyngedig o leoedd – 15 o bobl.
Oherwydd pynciau ein straeon, rydyn ni’n cynghori bod y digwyddiad hwn yn addas ar gyfer unigolion 12 oed a hŷn.
Yna gallwch archwilio’r amgueddfa newydd gyffrous! Dywedwch wrth eich holl ffrindiau a gwneud diwrnod ohoni, mae gennym gaffi gwych yn llawn danteithion blasus ac mae ein hamgueddfa gyfan yn gwbl hygyrch.
Archebwch eich tocyn am ddim ar gyfer y daith a mynediad i weddill yr amgueddfa drwy ein dolen archebu. Mae nifer cyfyngedig iawn o docynnau’r daith ac yn cael eu cyhoeddi ar sail y cyntaf i’r felin.
Cyrhaeddwch ychydig funudau’n gynnar i ganiatáu amser i wirio tocynnau.
Os byddwch yn cyrraedd heb archebu, bydd ein tîm croeso yn eich rhoi yn y slot nesaf sydd ar gael (oni bai eu bod yn llawn).
Amgueddfa Bêl Droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Regent St, Wrexham LL11 1PR, UK