Dewch, os meiddiwch chi, a chwiliwch am longau Ysbryd cudd Nelson yn Nhrefynwy!
Wedi’u lliwio’n hyfryd gan deuluoedd lleol, mae’r llongau hyn wedi’u cuddio mewn siopau lleol ac ar adeiladau hanesyddol, pob un yn cynnwys llythyren i ddatrys y gair coll.
Casglwch eich map llwybr o Hyb Cymunedol Trefynwy o’r 23ain Hydref tan ddydd Sul 1af Tachwedd (yn amodol ar oriau agor yr hwb cymunedol).
Ar ôl i chi gwblhau’r llwybr, dychwelwch eich map wedi’i gwblhau gyda’r gair cyfrinachol i’r hwb i dderbyn eich trysor!
Rhannwch eich lluniau gyda ni a thagiwch ni @monlifeheritage ar insta neu @shirehallmonmouth ar Facebook ac Instagram.
Mae’r gweithgaredd hwn AM DDIM, wedi’i greu gan deuluoedd Sir Fynwy gydag Amgueddfa’r Neuadd Sirol, ac yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Lleoliad: Neuadd Sirol
Neuadd Sirol
Shire Hall, Agincourt Square, Monmouth, UK