Calan Gaeaf gwyrddach i deuluoedd yn Amgueddfa Parc Howard.
Bydd y garddwr Adam Jones (Adam yn yr Ardd) yn dilyn cylch bywyd y bwmpen, o’r hedyn i’r cawl i’r compost. Bydd arddangosfa a llwybr o bwmpenni, straeon Calan Gaeaf a Hallowe’en, a cherfio pwmpenni yn y babell. I gloi, bydd y plant yn plannu ewin o arlleg, yr hen ffordd o gadw fampirod draw, mewn cwpan bioddiraddadwy i fynd adref i’w dyfu.
Bydd llwybrau yn yr amgueddfa ac o gwmpas y parc drwy’r dydd. Maen nhw’n addas i deuluoedd sy’n cyrraedd yn gynnar neu’n aros ar ôl y digwyddiad, ac i frodyr a chwiorydd iau sydd angen tro bach. Yn Gymraeg a Saesneg.
11:00 tan 13:20; dau grŵp o 15 i 20 o blant.
Rhaid archebu lle: e-bostiwch cofgar@carmarthenshire.gov.uk neu ffoniwch 01554 742220 yn ystod oriau agor (https://cofgar.wales/venues/parc-howard-museum/).
Lleoliad: Amgueddfa Parc Howard Museum
Amgueddfa Parc Howard Museum
Parc Howard Museum, Llanelli SA15 3LJ, UK