Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd: ‘Quivering Quills and Spooky Spells’

Canolfan Dylan Thomas
Hydref 30, 2026
1:00 pm - 4:00 pm

Date/Time
30/10/2026
1:00 pm – 4:00 pm

Dydd Gwener 30 Hydref, 1.00-4.00 

Wyddech chi fod Dylan Thomas, fel bachgen ysgol drwg, wedi taflu bom drewi i mewn i grochan yn ystod perfformiad ei chwaer o wrach yn Macbeth? Ymunwch â ni am weithgaredd creadigol ymarferol difyr lle byddwch yn cael hwyl yn creu cwils ac yn ysgrifennu swynion. Byddwn yn defnyddio cerddi Dylan am yr hydref ac eitemau brawychus o gasgliad astudiaethau natur Amgueddfa Abertawe fel ysbrydoliaeth.

Defnyddir deunyddiau wedi’u hailgylchu, eu hailbwrpasu ac sy’n amgylcheddol gynaliadwy yn ein holl weithdai. Byddwn yn defnyddio plu wedi’u gollwng yn naturiol i wneud y cwils y mae ein ffrindiau yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli wedi bod yn ddigon caredig i’w casglu ar ein cyfer.

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.

Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w harchwilio yn ein harddangosfa.

Hwyl i deuluoedd â phlant o bob oedran.

Galw heibio, am ddim.

Mae’r gweithdy hwn yn rhan o brosiect partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru rhwng Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe, sy’n archwilio hanes naturiol trwy ysgrifennu Dylan Thomas.

Canolfan Dylan Thomas

Dylan Thomas Centre, Somerset Place, Swansea, UK