Hydref 24, 2026 – Tachwedd 1, 2026
10:00 am - 4:00 pm
24-25 Hydref; 31 Hydref – 1 Tachwedd
10am – 4pm
Ymunwch â ni yng Nghanolfan Dylan Thomas am amrywiaeth o weithgareddau hunanarweiniedig difyr sy’n addas i deuluoedd! Mwynhewch ein teclyn creu hud hydrefol, pypedau, gwisgoedd (gan gynnwys rhai sy’n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn), barddoniaeth fagnetig, gemau creu straeon bwganllyd, y gornel synhwyraidd, lliwio ar thema’r hydref, y gornel ddarllen, a mwy. Lluniwyd y gweithgareddau i fod yn addas ar gyfer amrywiaeth o oedrannau ac mae croeso i bawb. 😀
Am ddim.
Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas
Canolfan Dylan Thomas
Dylan Thomas Centre, Somerset Place, Swansea, UK