Mae Amgueddfa a Chymdeithas Hanes Porthcawl yn dathlu Calan Gaeaf fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Gall ymwelwyr gloddio am esgyrn, cerdded ar hyd y coridor arswydus, mentro i mewn i’r Gell Arswydus a chwilio am y pryfed cop sydd wedi’u cuddio o amgylch yr amgueddfa. Mae llyfr gweithgareddau Calan Gaeaf ar gael hefyd. Bydd sesiwn ar ddydd Sadwrn 31 Hydref yn fwy arswydus fyth!
Pryd: Dydd Sadwrn 24, dydd Mercher 28, dydd Gwener 30 a dydd Sadwrn 31 Hydref, 11yb-3yp (mynediad olaf 2.30yp)
Ble: Yr Hen Orsaf Heddlu, John Street, Porthcawl CF36 3DT
Pris: Oedolion £3, plant £1
Cysylltu: 01656 788853 / porthcawlmuseum@hotmail.co.uk
Lleoliad: Amgueddfa Porthcawl
Amgueddfa Porthcawl
Porthcawl Museum, John Street, Porthcawl, UK