Gweithgareddau arswydus munud olaf wrth i deuluoedd deimlo’r wasgfa
Mae amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru yn cynnig ffordd rhatach a gwyrddach o ddathlu’r penwythnos hwn, gyda dwsinau o lwybrau, crefftau a sesiynau adrodd straeon munud olaf am ddim cyn i Ŵyl Amgueddfeydd Cymru ddod i ben ddydd Sul 1 Tachwedd.
Gyda Chalan Gaeaf bellach yn costio £209 ar gyfartaledd i deuluoedd, canfu ymchwil a gyhoeddwyd y mis hwn ar ran Asda fod mwy na hanner oedolion y DU yn ystyried gwario ar Galan Gaeaf yn ergyd ddiangen mor agos at y Nadolig. Canfu arolwg ar wahân gan Savvy fod saith o bob deg o siopwyr Calan Gaeaf am nodi’r achlysur heb wario llawer.
Mae mwy na 60 o amgueddfeydd ac orielau yn cymryd rhan yn yr ŵyl eleni, gyda llawer yn cynnig gweithgareddau am ddim neu am bris isel, ac – mewn rhai achosion – does dim angen archebu. Gall teuluoedd hefyd gasglu llyfryn Calan Gaeaf dwyieithog yr ŵyl am ddim mewn mannau sy’n cymryd rhan.
Dywedodd Dr Ken Griffin, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, sy’n trefnu’r ŵyl gydag arian gan Lywodraeth Cymru: “Eleni, mae mwy na 60 o amgueddfeydd yn cymryd rhan, y nifer uchaf ers i’r ŵyl ddechrau. Mae’r ŵyl yn arbennig o boblogaidd gyda theuluoedd, gan gynnig gweithgareddau am ddim mewn cyfnod o bwysau ariannol. Yn fwy na dim, dyma’r amser perffaith i ddarganfod eich amgueddfa leol.”
Mae’r elusen amgylcheddol Hubbub yn amcangyfrif bod saith miliwn o wisgoedd Calan Gaeaf yn cael eu taflu yn y DU bob blwyddyn. Mae hynny’n gyfystyr â thua 2,000 tunnell o wastraff plastig. Eleni, mae’r ŵyl wedi annog amgueddfeydd i gyfnewid gliter a phropiau plastig am ddeunyddiau naturiol ac wedi’u hailgylchu. Er enghraifft, yn Amgueddfa Sir Gâr, mae pob pwmpen ar y llwybr Calan Gaeaf wedi’i chrosio â llaw. Bydd plant sy’n cwblhau’r llwybr yn mynd â hadau pwmpen adref mewn pot bioddiraddadwy, gyda thystysgrif wedi’i hargraffu ar bapur wedi’i ailgylchu.
Mae’r ymateb cynnar gan deuluoedd wedi bod yn wych, gydag ymwelwyr yn rhoi pum seren i’r ŵyl. “Roedd y plant wrth eu bodd, ac mae’n dda gweld gweithgareddau wedi’u hariannu ar gael eto,” meddai un rhiant yn Amgueddfa Caerdydd. Disgrifiodd un ymwelydd â Storiel ym Mangor y cyfan fel “Gwych o’r dechrau i’r diwedd!”, tra dywedodd un arall yn TimeScape Rhaeadr: “Braf a chynnes. Cymaint i’w weld mewn un ymweliad.”
Beth sydd ymlaen dros Calan Gaeaf, dydd Gwener 30 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd
Am fanylion llawn, ewch yn uniongyrchol at yr amgueddfa neu’r oriel dan sylw.
GOGLEDD CYMRU
- Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor: Bwystfilod Bychain, ffeltio nodwydd gyda’r artist Elen Williams (8–12 oed). Sad 31 Hyd, 10yb–12yp neu 1yp–3yp. AM DDIM, rhaid archebu.
- Canolfan Ddiwylliant Conwy: Dathlu Archaeoleg! Gwe 30 Hyd, 1yp–4yp.
- Amgueddfa Dinbych: Calan Gaeaf Amgueddfa Dinbych, gyda helfa ysbrydion, argraffu yn Stiwdio Gee, creu bathodyn, ffilm fer a chwis, a llyfrynnau gweithgareddau. Sul 1 Tach, 12yp–4yp.
- Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam: Sgwrs Calan Gaeaf iasol. Sad 31 Hyd, 11yb.
- Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis: Llwybr Natur yn Ysbyty’r Chwarel. Tan Sul 1 Tach, 10.30yb–4yp. Dolen
- Oriel Môn, Llangefni: Calan Gaeaf Creadigol. Gwe 30 Hyd, 10.30yb–12.30yp. AM DDIM, rhaid archebu. Dolen
- Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog:
- Yr Oriel Fyw: Calan Gaeaf. Gwe 30 Hyd, 5yp–6.30yp.
- Paned i’r Blaned, sgwrs Gymraeg am yr amgylchedd, gyda chacen. Sad 31 Hyd, 10yb. AM DDIM.
- Castell Penrhyn, Bangor (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol):
- Llwybr cynhaeaf Calan Gaeaf. Tan Sul 1 Tach.
- Adrodd straeon gyda Mair Tomos Ifans, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gwe 30 a Sad 31 Hyd.
- Plas Newydd, Ynys Môn (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol): ‘Big Draw’ a gwisgo’n ffansi. Tan Sul 1 Tach.
- Plas yn Rhiw, Llŷn (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol): Llwybr creaduriaid Calan Gaeaf. Sad 31 Hyd a Sul 1 Tach.
- Amgueddfa Carchar Rhuthun: Calan Gaeaf yng Ngharchar Rhuthun, gyda’r celloedd Fictoraidd ar agor yn hwyr. Tan Sad 31 Hyd, 10.30yb–8yh. Tâl mynediad.
- Storiel, Bangor: Mygydau emoji Calan Gaeaf gyda Hannah Coates Shea. Gwe 30 Hyd, 11yb–4yp.
- Yr Ysgwrn, Trawsfynydd:
- Ysgol Goedwig, Gwe 30 Hyd, 12.30yp.
- Cyngerdd gyda Mari Fychan, Gwe 30 Hyd, 3yp.
- Bore coffi, Sad 31 Hyd, 10yb.
CANOLBARTH CYMRU
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth: Dirgelwch y Gath Ddu. Sad 31 Hyd, 11yb–11.40yb.
- TimeScape Rhaeadr:
- Gŵyl y Ddraig Rhaeadr: dewch i gwrdd â’r Frenhines Belrenin, draig gopr 20 troedfedd. Tan Sad 31 Hyd. AM DDIM.
- Nyddu gyda gwerthyd a lliwiau naturiol, Gwe 30 Hyd, 1.30yp.
- Amgueddfa, Oriel Gelf a Llyfrgell y Gaer, Aberhonddu: Trick or Trails, helfa am ystlumod, pryfed cop, nadroedd a thylluanod, a chrefftau cynaliadwy. Tan Sul 1 Tach, 10yb–4yp. AM DDIM, galw heibio.
DE CYMRU
- Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful:
- Llwybr Dirgelwch Calan Gaeaf y Bwtler. Tan Sul 1 Tach, 10yb–4.30yp. Plant am ddim, oedolion £3.50.
- Mosaigau hadau arswydus, Gwe 30 Hyd, 10yb–12yp ac 1yp–3yp.
- Amgueddfa Porthcawl: Calan Gaeaf yn Amgueddfa Porthcawl. Tan Sad 31 Hyd, 11yb–3yp.
- Amgueddfa Neuadd y Sir, Trefynwy: Llwybr Ysbrydion Nelson: chwiliwch am longau ysbryd cudd o amgylch y dref. Mapiau o Hyb Cymunedol Trefynwy. Tan Sul 1 Tach. AM DDIM.
- Amgueddfa Torfaen, Pont-y-pŵl: Pwmpenni appliqué o sbarion ffabrig. Gwe 30 Hyd, 10.30yb–11.30yb.
GORLLEWIN CYMRU
- Amgueddfa Sir Gâr, Abergwili:
- Llwybr Pwmpenni wedi’u crosio. Tan Sul 1 Tach, 10yb–5yp. AM DDIM, galw heibio.
- Peintio wynebau, Gwe 30 Hyd, 10yb–5yp.
- Gweithdai drama arswydus, Sad 31 Hyd, 10yb ac 11.30yb. Dolen
- Canolfan Dylan Thomas, Abertawe:
- Gweithdai Swynion yr Hydref, Gwe 30 Hyd: sesiynau tawel wedi’u cynllunio i fod yn addas i bobl awtistig a niwrowahanol, 10yb–12yp, yna galw heibio, 1yp–4yp.
- Gweithgareddau hunan-dywys Swynion yr Hydref, Sad 31 Hyd a Sul 1 Tach, 10yb–4yp. AM DDIM.
- Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe: Gweithdy creu llyfrau i oedolion, Sad 31 Hyd, 10.30yb–1yp; Queer Shapes, darlunio bywyd, Sad 31 Hyd, 2yp–4yp. Dolen
- Amgueddfa Cyflymder, Pentywyn: Creu ysbryd neu wrach o rolyn papur tŷ bach. Sad 31 Hyd, 11yb–1yp.
- Amgueddfa Parc Howard, Llanelli: Garlleg, Pwmpenni a Fampirod gydag Adam yn yr Ardd. Gwe 30 Hyd, 11yb. £5, rhaid archebu.
- Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro: Hwyl Calan Gaeaf i’r teulu, gyda pheintio wynebau, creu bathodynnau a chwisiau. Diwrnod olaf Gwe 30 Hyd, 10yb–4yp. Plant am ddim gydag oedolyn sy’n talu.
- Amgueddfa Abertawe: Llwybr Pwmpenni: dewch o hyd i’r pwmpenni a dyfalu’r gair. Tan Sul 1 Tach, 10yb–4.30yp. AM DDIM.
Gall teuluoedd hefyd gasglu llyfryn Calan Gaeaf dwyieithog yr ŵyl am ddim mewn amgueddfeydd sy’n cymryd rhan, sydd wedi’u nodi â phwmpen 🎃 ar museumsfestival.wales