Mae Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru yn sefyll mewn undod llwyr â Chymdeithas yr Amgueddfeydd a chydweithwyr ledled y DU wrth gondemnio’r trais hiliol diweddar sydd wedi achosi niwed a gofid dwfn yn ein sector a’n cymunedau.
Mae amgueddfeydd yng Nghymru wedi ymrwymo i fod yn lleoedd diogel a chynhwysol i bawb. Nid oes lle i hiliaeth yn ein sefydliadau, ein gweithlu, na’n cymdeithas. Rydym yn cydnabod yr effaith ddofn y mae trais hiliol yn ei chael ar staff, gwirfoddolwyr, a chymunedau, ac rydym yn estyn ein cefnogaeth i bawb yr effeithir arnynt.
Mae Cymru wedi gosod cyfeiriad cenedlaethol clir trwy Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, sy’n galw am newid rhagweithiol, systemig ar draws bywyd cyhoeddus. Fel sector, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i’r gwaith hwn: herio hiliaeth, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol, a sicrhau bod ein hamgueddfeydd yn adlewyrchu ac yn gwasanaethu cymunedau amrywiol Cymru.
Dywedodd Dr Ken Griffin, Llywydd: “Rydym hefyd am ailddatgan ein cefnogaeth gref i waith Cymdeithas yr Amgueddfeydd ar ddad-wladychu amgueddfeydd. Mae’r canllawiau hyn wedi bod yn hanfodol wrth helpu amgueddfeydd Cymru i ymgysylltu’n onest â’r hanesion yn eu gofal ac wrth gefnogi arfer moesegol, dan arweiniad y gymuned. Gobeithiwn y bydd y Gweinidog yn parhau i hyrwyddo ac ariannu’r cyngor a’r fframweithiau proffesiynol sy’n galluogi’r gwaith hwn i symud ymlaen yn hyderus ledled Cymru.”
Bydd y Ffederasiwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithas yr Amgueddfeydd, Llywodraeth Cymru, a rhwydweithiau sector, i gefnogi arfer gwrth-hiliol, cryfhau hyder y gweithlu, a sicrhau bod amgueddfeydd yn cyfrannu’n ystyrlon at Gymru decach a mwy cynhwysol.