Ymunwch â ni yn ein Cynhadledd ym mis Hydref

Hydref 7, 2026 |

Ble: Cwch Canoloesol Casnewydd, 20 Queensway Meadows, Ystad Ddiwydiannol, Ffordd Estuary, Casnewydd, NP19 4SP

Pryd: Dydd Iau, 22 ain Hydref 2026 o 10.30

Thema: Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon yng Nghymru

Beth fyddai amgueddfeydd eisiau ei gynnwys?

Bydd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru yn cynnal ei gynhadledd flynyddol a’i Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni yng Nghasnewydd, Gwent, yn y Cwch Casnewydd. Cynhelir y gynhadledd yn y bore gyda’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn dilyn ar ôl cinio. Mae’r ddau yn gyfarfodydd hybrid a gobeithiwn y bydd aelodau’n mynychu’r ddau.

Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi agor ymgynghoriad, Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon yng Nghymru, gan ofyn i bobl, sefydliadau, cymunedau a phartneriaid eu helpu i ddeall cyflwr presennol diwylliant a chwaraeon er mwyn llunio gweledigaeth genedlaethol a rennir. Bydd y gynhadledd a’r trafodaethau yn helpu’r Ffederasiwn a sefydliadau unigol sy’n aelodau i ddatblygu eu hymatebion i’r ymgynghoriad. Bydd aelodau’r tîm ymgynghori diwylliannol yn bresennol i esbonio’r broses ac amlinellu materion allweddol. Bydd mewnbynnau gan Gomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn dechrau am 2.00 pm a bydd sawl cyflwyniad byr yn ei ddilyn am brosiectau a gynhaliwyd gan ddefnyddio rhaglenni grant y Ffederasiwn.

Lawrlwythwch y ffurflen archebu yma