Cymorth codi arian am ddim ar gyfer cymuned digwyddiadau Cymru! 

January 8, 2025 |

Mae Digwyddiadau Cymru wedi ariannu Richard Newton Consulting trwy’r Gronfa Datblygu Sector i drosglwyddo gweithdai a hyfforddiant codi arian mynediad am ddim ar gyfer cymuned digwyddiadau Cymru.

Mae digwyddiadau’n cynnig datblygiad cymdeithasol ac economaidd i Gymru, ac mae trefnwyr digwyddiadau’n wynebu mwy a mwy o heriau wrth godi’r arian sydd ei angen i drosglwyddo eu digwyddiad. O ffeiriau i gyngherddau, digwyddiadau chwarae i wyliau bwyd, sioeau amaethyddol i ddathliadau diwylliannol, mae croeso i bawb ar y cynllun hwn a bwriedir i’r dysg eu helpu i ddatblygu eu gwytnwch.

Mae gan gwmni Richard Newton Consulting dros 13 mlynedd o brofiad o gefnogi sefydliadau ledled Cymru i fwyafu eu hincwm. Bydd y gweithdai’n ymdrin â phynciau’n cynnwys rhoi unigol, rhoi digidol, nawdd, creu achosion ar gyfer cefnogi a chodi arian i ymddiriedolaethau a sefydliadau.

Ceir mynediad am ddim i’r gweithdai, a drosglwyddir yn ddigidol – ac mae’r rhaglen lawn o weithdai ar gael i’w darllen / i archebu yma.

Yn ogystal â threfnwyr digwyddiadau, mae myfyrwyr AB / AU ar gyrsiau rheoli digwyddiadau yng Nghymru yn gymwys i ymuno â’r gweithdai er mwyn cyfoethogi eu dysg.

Yn rhedeg ochr yn ochr â’r gweithdai ceir rhaglen o hyfforddiant un-i-un, i gefnogi trefnwyr digwyddiadau gyda materion codi arian y maent wedi eu clustnodi, ceir manylion pellach yma.

I fod yn gymwys i gymryd rhan, bydd rhaid ichi allu arddangos –

·         Eich bod yn trefnu digwyddiad(au) yng Nghymru.

·         Bod eich digwyddiad yn cynnig effaith economaidd a chymdeithasol cadarnhaol i Gymru

·         Nad yw’r digwyddiad yn un personol / yn ddigwyddiad bywyd fel pen-blwydd, priodas, neu barti preifat neu

·         Eich bod yn fyfyriwr ar gwrs rheoli digwyddiadau AB / AU yng Nghymru (gweithdai yn unig)