Astudiaethau Achos Llesiant
Mae deg o astudiaethau achos ar brosiectau llesiant oddi wrth amgueddfeydd Cymru wedi cael eu casglu ynghyd mewn cyhoeddiad. Mae’r adnodd yn rhannu arfer gorau oddi wrth sector amgueddfeydd Cymru gyda’r nod o annog rhagor o amgueddfeydd i ymgysylltu mewn gwaith llesiant. Mae’r gweithgareddau llesiant a nodwyd yn cynnwys rhaglenni gwirfoddolwyr, gwaith gyda ffoaduriaid a chefnogi pobl sy’n byw â dementia. Penodwyd Lynn Podmore, Ymgynghorydd annibynnol ac awdures, gan Adran Diwylliant Llywodraeth Cymru i gynnal yr ymchwil hwn.
Astudiaethau Llesiant o fewn Amgueddfeydd Cymru
Nod yr astudiaeth ymchwil hon yw casglu data meintiol ar lesiant ymwelwyr gan ddefnyddio Pecyn Cymorth Mesurau Llesiant Amgueddfeydd yr UCL.
Casglwyd y data oddi wrth ymwelwyr cyffredinol ag amgueddfeydd gan ddefnyddio Ymbarél Llesiant Positif (y gellir ei ganfod ar dudalen 15 y Pecyn Cymorth). Mae’r Pecyn Cymorth Mesurau Llesiant yn ffordd hawdd o gasglu data i hyrwyddo’r effaith bositif y mae amgueddfeydd Cymru yn ei gael ar lesiant ymwelwyr ac yn darparu tystiolaeth o effaith ar gyfer y sector. Mae’r Pecyn Cymorth yn adnodd defnyddiol i weithwyr proffesiynol fel cymorth i ateb cwestiynau ynghylch Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd yn y dyfodol. Penodwyd Lynn Podmore, Ymgynghorydd annibynnol ac awdures, gan Adran Diwylliant Llywodraeth Cymru i gynnal yr ymchwil hwn.
Gallwch ddod o hyd i’r ddwy ddogfen hyn ar ein tudalen adnoddau astudiaethau achos