Ffioedd aelodaeth ar gyfer Ebrill 2025 – Mawrth 2026

September 11, 2025 |

Mae Bwrdd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru yn ddiolchgar i’w holl aelodau am eu cefnogaeth a gobeithiwn fod eich aelodaeth yn ddefnyddiol i chi.

Mae’r Ffederasiwn yn wynebu costau cynyddol ac nid yw ffioedd wedi codi ers dros bum mlynedd. Mewn gwirionedd, roedd aelodaeth am ddim ar gyfer y cyfnod 2023–24 wrth i’r system aelodaeth newydd gael ei datblygu. Roedd cyflwyno’r system hefyd yn golygu bod negeseuon atgoffa yn hwyr yn cael eu hanfon ar gyfer 2024–25.

Mae’r bwrdd, felly, wedi penderfynu y bydd angen codi ffioedd.  Ond er mwyn annog taliadau cynharach, gall unrhyw un sy’n adnewyddu cyn 1 Hydref wneud hynny ar yr hen gyfradd.

I adnewyddu’ch aelodaeth, mewngofnodwch i’ch cyfrif o’r wefan gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost ag a ddefnyddiwyd y tro diwethaf. Ymaelodi – Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru

Gallwch ailosod eich cyfrinair os oes angen. Mae croeso i aelodau newydd hefyd fanteisio ar y cynnig hwn. Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r ddolen uchod.

Categori aelodaethHen ffi tan 30/9/25
Ffi newydd o 1/10/25
Myfyriwr£5£10
Unigolyn£20£25
Cyllideb yr Amgueddfa hyd at £5,000£22£30
Cyllideb yr Amgueddfa hyd at £60,000£33£40
Cyllideb yr Amgueddfa hyd at £225,000£110£135
Cyllideb yr Amgueddfa hyd at £750,000£275£330
Cyllideb yr Amgueddfa dros £750,000£550£660

Noder, os ydych chi neu’ch amgueddfa wedi derbyn grant eleni, bydd angen ichi dalu’ch ffioedd cyn y gallwch hawlio’r grant.

Ysgrifennydd Aelodaeth – Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru (Carol Whittaker) membership@museumsfederation.cymru