Cynhadledd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru Mawrth 2025

Ebrill 15, 2025 |

Mae Pwyllgor Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru am ddiolch i’r siaradwyr ac i bawb a fynychodd y gynhadledd eleni ar y 6ed o Fawrth.

Roedd yn ddiwrnod gwych yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, ac yn gyfle arbennig i gael golwg ar y casgliad yn y Ganolfan Eifftaidd.

Roedd yn achlysur o bwys, gan mai hon oedd cynhadledd bersonol gyntaf y Ffederasiwn ers 2020, ac roedd yn deimlad arbennig i ymgynnull a thrafod gyda’n gilydd fel grŵp.

Thema’r gynhadledd oedd ‘Amgueddfeydd ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth ddatganoledig’ a thrwy gydol y dydd cafwyd cyflwyniadau grymus gan bump o siaradwyr oedd yn tanlinellu’r cynnydd, y llwyddiannau a’r heriau a wynebir gan sector amgueddfeydd Cymru ers Deddf Llywodraeth Cymru 1998.

Arweiniwyd y gynhadledd gan Ken Griffin, curadur y Ganolfan Eifftaidd a Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, ac fe’i cyflwynwyd gan Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Cymru.

Cyfeiriodd Mr Sargeant at y datblygiadau a wnaed, a’r agwedd gydnerth a ddangoswyd gan y sector amgueddfeydd yng Nghymru ers datganoli.

Yn dilyn y strategaeth ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru (2010-2015) a chreu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae llywodraeth Cymru wedi parhau i gefnogi’r sector.

Ymhlith yr enghreifftiau diweddar o’r gefnogaeth hon mae’r canlynol:

  • Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru.
  • Arolygon Sbotolau ar Amgueddfeydd – casglu data pwysig o’r amgueddfeydd ledled Cymru.
  • Cyfraniadau Llywodraeth Cymru i’r sector drwy weinyddu cyllido drwy’r ‘Cynllun Grantiau Bach’ Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru.
  • Astudiaethau Llesiant diweddar yn y sector – yn amlygu’r modd y mae’r amgueddfeydd yn caniatáu i bobl deimlo’n llai unig, yn llai ynysig, a llwyddo i hunan-wireddu.

Bu’r ail siaradwr, Rachael Rogers, Is-lywydd Cymdeithas yr Amgueddfeydd, yn trafod gwerth a chydnerthedd yr amgueddfeydd yng Nghymru.

‘Mae’n amlwg bod yn rhaid i’r sector yn awr, yn fwy nag erioed, ddangos yr achosion cadarnaf o werth ein hamgueddfeydd i ddiwylliant.’

Tynnodd Rachael sylw at y gwaith arwyddocaol a wneir gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd, a’r modd y gallant gefnogi amgueddfeydd ar hyd a lled Cymru drwy’r canlynol:

  • Sawl cynllun ariannu – Cronfa Casgliadau Esmée Fairbairn, Cais Beecroft, a Chronfa Cymorth i’r Aelodau.
  • Cynnig gwaith ymchwil a chyngor ar faterion cymdeithasol sy’n effeithio ar y sector megis amrywiaeth, gwrth-hiliaeth a chyfiawnder hinsawdd.
  • Hyrwyddo arfer moesegol a rhoi arweiniad drwy Bwyllgor Moeseg y Gymdeithas.
  • Dathlu pwysigrwydd a gwerth amgueddfeydd drwy eu Gwobrau Amgueddfeydd yn Newid Bywydau.

Eleni cynhelir Cynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd yng Nghymru, yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan; cyfle gwych i rwydweithio ac arddangos y datblygiadau yn nhreftadaeth Cymru.

Trydydd siaradwr y dydd oedd Andrew White o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n dathlu 30 mlynedd o ledaenu cymorth ariannol.

Mae’r Gronfa hon wedi buddsoddi bron i £500,000,000 i 3,400 a mwy o brosiectau yng Nghymru sy’n bwysig i’n stori genedlaethol.

Mae’r prosiectau yng Nghymru yn tynnu ar gyllideb ar gyfer y DU gyfan, ac yn cael eu rheoli gan gyllideb ddatganoledig a phwyllgor gwneud penderfyniadau.

Dyma rai enghreifftiau o brosiectau’r Gronfa Dreftadaeth ar hyd a lled Cymru, megis:

  • Amgueddfa Wrecsam ‘Yr Amgueddfa o Ddau Hanner’; Amgueddfa Wrecsam sydd wedi’i hadnewyddu a’i gwella’n llwyr yn yr adeilad presennol, ochr yn ochr ag Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol newydd sbon yng Nghymru.
  • Amgueddfa Lechi Cymru; prosiect i warchod a gwella cyflwr treftadaeth adeiledig y safle, gan ei drawsnewid yn hwb dehongli ar gyfer Tirwedd Llechi Cymru.

Nesaf, bu Robin Johnson o’r Grŵp Addysg mewn Amgueddfeydd Cymru yn trafod y datblygiadau yn y sector amgueddfeydd yng Nghymru i wella’r ddarpariaeth addysg.

Mae’r Grŵp Addysg yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn gweinyddu cyllid ar eu rhan, gan alluogi’r Grŵp i gynorthwyo sector dysgu yr amgueddfeydd i ymateb i’r Cwricwlwm i Gymru.

Ymhlith y prosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru mae’r canlynol:

  • Gweithio gyda Dr Marian Gwyn i gynhyrchu pecyn cymorth cynhwysfawr ar gyfer yr amgueddfeydd yng Nghymru i’w helpu i lywio’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
  • Grantiau micro y Grŵp Addysg i helpu i ddatblygu gwasanaethau dysgu yr amgueddfeydd wrth i’r cwricwlwm gael ei gyflwyno am y tro cyntaf fis Hydref/ Gaeaf 2022/23. Un enghraifft yw’r Ganolfan Eifftaidd yn Abertawe: Ymwybyddiaeth Ofalgar yn yr Amgueddfa. Nod y prosiect oedd datblygu sesiwn newydd i ysgolion yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth ofalgar mewn ymateb i’r Maes Dysgu a Phrofiad newydd Iechyd a Lles yn y Cwricwlwm newydd i Gymru.
  • Prosiect ‘Mentor Dysgu y Grŵp Addysg’, lle bu ymarferwyr addysgol yn gweithio gydag amgueddfeydd dethol yng Nghymru i’w helpu i ddylunio, datblygu a phrofi adnoddau a gwasanaethau newydd sy’n ymwneud â’r cwricwlwm newydd. Yn ogystal â’r broses fentora, roedd cyllideb fechan ar gael i helpu’r amgueddfeydd gyda’r gost o ddylunio a chynhyrchu deunyddiau ac adnoddau.

Roedd y pedwerydd siaradwr, Steve Burrow o Amgueddfa Cymru, yn trafod Y Ddeddf Trysor a’i phwysigrwydd i amgueddfeydd ledled Cymru.

Ers 1997, mae tua 850 o ddarganfyddiadau Trysor wedi’u gwneud yng Nghymru, yn bennaf gan ddatgelwyr metel.

Mae Deddf Trysor 1996 yr un peth yng Nghymru ag yn Lloegr. Fodd bynnag, yng Nghymru mae Crwneriaid yn gyfrifol am benderfynu a yw darganfyddiadau a wneir yng Nghymru yn gymwys yn gyfreithiol i’w alw yn Drysor neu beidio.

Rhoddodd Steve drosolwg diddorol o’r diffiniad o eitemau trysor, a’r broses gyfredol sydd mewn lle; o ddarganfod trysor i gaffael y trysor hwnnw i gasgliadau amgueddfa.

Eglurodd Steve y modd y mae darganfyddiadau trysor yng Nghymru ar gynnydd (rhwng 60 a 80 o achosion y flwyddyn), ac mae’r trysorau hyn yn arwyddocaol o ran adrodd straeon lleol, rhanbarthol a chenedlaethol o fewn ein hamgueddfeydd.

Felly, mae’n bwysig deall y broses ac i ymgysylltu â’r Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau yn Amgueddfa Cymru.

Siaradwr olaf y dydd oedd yr ymgynghorydd treftadaeth, Dr Marian Gwyn, fu’n trafod y prosiect gwrth-hiliaeth ‘Amgueddfeydd, Casgliadau a Chynefin – Gadael Etifeddiaeth Barhaol’.

Eglurodd Marian y modd y mae Cymru yn arwain y ffordd gyda’r Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cymru, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022. Mae amgueddfeydd Cymru wedi ymateb i Gynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cymru y Llywodraeth. Mae’r cynllun hwn wedi’i ategu gan brosiectau megis ‘Amgueddfeydd, Casgliadau a Chynefin’ a ariannwyd gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a Llywodraeth Cymru, ac a arweiniwyd gan Marian.

Roedd 40 a mwy o amgueddfeydd Cymru wedi cymryd rhan yn y prosiect, a gyflawnodd y canlynol:

1.           Adolygiad o gasgliadau’r amgueddfeydd gan ganolbwyntio ar wladychiaeth, caethwasiaeth, ac amrywiaeth, gan arwain at adroddiad ysgrifenedig ar gyfer pob amgueddfa.

2.           Gweithdy undydd ar y safle i staff yr amgueddfa ar ganfyddiadau’r adolygiad – yn cynnwys trosolwg o’r adolygiad o’r casgliad, enghreifftiau o brosiectau ymgysylltu llwyddiannus mewn mannau eraill, ac awgrymiadau ar gyfer gweithio gyda chynulleidfaoedd newydd.

3.           Mynediad at gyllid i greu adnoddau hirdymor yn deillio o’r adolygiad a’r sesiwn hyfforddi.

Roedd y prosiect yn gyfle i’r amgueddfeydd ymgysylltu’n fanylach â’u casgliadau, gan amlygu ffyrdd o egluro a dehongli gwrthrychau nad oedd, o bosibl, wedi’u hystyried o’r blaen. Er enghraifft, adrodd y stori ehangach am wrthrychau hanes cymdeithasol yn ymwneud â the, coffi, siwgr a siocled, a defnyddiau megis cotwm a sidan, yn enwedig y cysylltiadau â masnach a gwladychiaeth. Roedd hefyd yn caniatáu i amgueddfeydd ystyried cynulleidfaoedd newydd i ymgysylltu â hwy, a syniadau ar gyfer prosiectau cydweithio er mwyn deall a rhannu straeon gwahanol o’u casgliadau.

Bu’r pump siaradwr yn arddangos y modd y mae amgueddfeydd a’r sector treftadaeth yng Nghymru yn parhau i ysbrydoli gyda’u blaengaredd, creadigrwydd a’u gallu i osod safonau newydd 25 mlynedd ar ôl datganoli.

Ariannwyd y gynhadledd yn rhannol gan Is-adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru.