Mae’n bleser gan Bwyllgor y Ffederasiwn gyhoeddi bod Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jack Seargent MS, wedi cadarnhau y bydd yn croesawu cynrychiolwyr ac yn agor y Gynhadledd eleni ym Mhrifysgol Abertawe ar 6 Mawrth. Mae hon yn gynhadledd fyw a’r gyntaf ers 2020 a gynhaliwyd yn Storiel, Bangor ychydig wythnosau cyn y cyfyngiadau symud Covid!
Bydd siaradwyr yn archwilio’r effaith ar “y sector amgueddfeydd yn dilyn pum mlynedd ar hugain o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Beth fydd yn y dyfodol?