Dros y ddegawd rhwng 2009 a 2019 cafwyd gostyngiad o 31% yn y gwariant ar amgueddfeydd llywodraeth leol yng Nghymru mewn termau real. Roedd yn ddegawd o gyfyngiadau ariannol sylweddol. Yn draddodiadol, roedd awdurdodau lleol yn un o’r ffynonellau allweddol o gymorth ariannol i amgueddfeydd y DU. Mae hyn wedi effeithio nid yn unig ar amgueddfeydd yng Nghymru, ond ledled y DU, gyda chanlyniadau amlwg yn sgil y toriadau cyllid. Mae’r rhain yn amrywio, gyda chau, trosglwyddo o reolaeth yr awdurdod lleol, lleihau oriau, diffyg capasiti staff, cyflwyno tâl mynediad a gostyngiad yn y cyllid ar gyfer cynnal a chadw adeiladau a chasgliadau.
Ceir amrywiaeth yn y lefel o doriadau i amgueddfeydd mewn gwahanol ardaloedd awdurdod lleol oherwydd ffactorau sy’n effeithio ar amrywiol brosesau penderfynu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Pwysau i gyllido a blaenoriaethu gwasanaethau statudol.
- Dewisiadau gwleidyddol o fewn yr awdurdod lleol.
- Gwerth gwleidyddol y gwasanaeth amgueddfa i’r awdurdod lleol.
- Cost ariannol rhedeg y gwasanaeth amgueddfa.
- Y gallu i sicrhau adnoddau ychwanegol megis grantiau
Mae’r adroddiad Amgueddfeydd a Chaledi yn archwilio, yn dilysu ac yn coladu data i greu adroddiad sy’n dangos effaith llymder.
Mae’r adroddiad yn egluro’r sefyllfa yn nhermau cyllid cyhoeddus craidd, achosion o gau, newidiadau mewn lefelau staffio a newidiadau i strwythurau llywodraethu. Mae hefyd yn ceisio cynnwys effeithiau mwy cudd megis newidiadau i oriau agor a chyflwyno tâl mynediad, ond nid oedd data manwl ar gael bob amser.
Lywodraeth Cymru drwy’r Isadran Diwylliant sydd wedi cyllido’r adroddiad hwn gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.