Mae hanner tymor bron ar ein pennau, ac felly hefyd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru. O ddydd Gwener 25 Hydref i ddydd Sadwrn 2 Tachwedd, bydd bron i 50 o amgueddfeydd ledled Cymru yn barod i estyn croeso cynnes â llwyth o ddigwyiadau a gweithgareddau llawn hwyl!
Mae’n bosib ennill gwobr!
Gall plant gymryd rhan yn ein Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru, a chasglu pasbort yn un o amgueddfeydd yr her, neu lawrlwytho un o’r wefan, a chasglu stampiau wrth fynd o amgylch y wlad. Ewch i jest UN amgueddfa dros hanner tymor i ennill pecyn creu cuddfan, neu ewch i CHWE amgueddfa erbyn mis Ebrill nesaf I fo â chyfle i ennill sgwter newydd sbon!
Beth sydd ar y gweill?
Mae lot fawr or hwyl yn aros amdanoch yn eich amgueddfa leol:
• Llwybrau Calan Gaeaf a straeon arswydus, lle gallwch ddysgu am lusernau meipen neu’r hwch ddu gwta!
• Gweithdai, crefftau, a mwy
• Dysgu am ‘Hanes Hwyl’ wrth ddarllen adnodd newydd y bard Aneirin Karadog
P’un a ydych chi eisiau prynhawn tawel yn dysgu rhywbeth newydd neu antur deuluol go iawn mewn sawl amgueddfa, mae’r Ŵyl yn opsiwn gwych!
Ble i Ddechrau
Ewch i dudalen yr ŵyl i weld beth sydd ar gael yn eich amgueddfeydd lleol, a dechrau arni! Gyda dim ond 10 diwrnod i fynd, nawr yw’r amser i gynllunio. Allwn ni ddim aros i roi croeso cynnes i chi!