Yn galw ar holl Aelodau’r Ffederasiwn!
Os nad ydych chi wedi ymateb eto i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Blaenoriaethau Diwylliannol ar gyfer Diwylliant 2024 (drafft), rydym yn eich annog i wneud hynny nawr. Gallwch ymateb yn bersonol neu ar ran eich sefydliad. I’ch helpu, atodwn gopi o’r ymateb a anfonwyd gan y Ffederasiwn. Gallwch ddefnyddio neu addasu hwn, ond rhowch eich manylion eich hun ar y dechrau.
Mae nifer yr ymatebion yn bwysig!
Gallwch ymateb ar-lein, drwy e-bost neu’r post.
Ceir manylion llawn am y Blaenoriaethau a sut i ymateb yma: Ymgynghoriad ar y Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030 [HTML] | LLYW.CYMRU
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 4 Medi 2024, drwy unrhyw un o’r ffyrdd a ganlyn:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost at diwylliant@llyw.cymru
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
Ymgynghoriad ar Flaenoriaethau Diwylliannol 2024
Yr Is-adran Diwylliant
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
Conwy
LL31 9RZ