Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru

Dyma gyfle i ennill gwobrau!

UN amgueddfa erbyn diwedd hanner tymor yr Hydref (2 Tach) i fod â chyfle i ennill pecyn creu cuddfan.

CHWE amgueddfa erbyn diwedd gwyliau’r Pasg (12 Ebrill 2026) i fod â chyfle i ennill sgwter.

Gallwch gasglu eich pasbort o unrhyw amgueddfa sy’n cymryd rhan yn yr Her neu lawrlwythwch fan hyn.

Enillwyr y Llynedd

Gronw (dwy oed) o ogledd Cymru enillodd y sgwter Pasg 2025. Brawd a chwaer o Milton Keynes, Sophia (naw oed) ac Oscar (chwech oed), enillodd y pecyn creu cuddfan yn ystod yr Ŵyl.

Sut i gymryd rhan?

  1. Ar ôl i’r ŵyl gychwyn, casgla dy basbort o unrhyw amgueddfa sy’n rhan o’r her, neu lawrlwytha un fan hyn. Cofia i gael stamp! 
  2. Cei di gyfle i ennill gwobrau tan ddiwedd gwyliau’r Pasg (dydd Sul 12 Ebrill 2026).
  3. Mae ffurflen fan hyn i nodi dy lwyddiant.

Pob lwc!

#LlwybrauHanesCymru

Gogledd Cymru

Mae'r amgueddfa a'r oriel gelf afaelgar hon yn adrodd hanes a thraddodiadau cyfoethog Ynys Môn, ac yn gartref i gasgliad Charles Tunnicliffe gydag Oriel Kyffin yn cynnig arddangosfeydd o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol.

Yn adnodd addysgu sy’n rhan o Brifysgol Bangor, mae'r amgueddfa ddiddorol hon yn cadw ac yn arddangos sgerbydau, penglogau, tacsidermi, cyrn ceirw, wyau a chreaduriaid mewn jariau.

Yma cewch fwynhau casgliad o fwy na mil o wrthrychau a ffotograffau archif sy'n dangos bywyd yn y dref Gymreig hon o’r Oes Neolithig hyd at heddiw.

Galwch draw i’r Ganolfan gelf a threftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol hyn, sy’n cyfuno celf gan arlunwyr o Gymru, natur a diwylliant trwy ystod o weithgareddau a gofodau i chi eu harchwilio.

Yma ceir hanes datblygu tref Porthmadog yn yr 1820au, yn ganolfan adeiladu cychod ac allforio llechi.

Mae casgliadau’r Amgueddfa’n cynnwys cyfanswm o 9,000 o arteffactau, ac maen nhw’n rhannu’n 5 maes eang sy’n cynnwys hanes naturiol a daeareg, celfyddyd addurniadol a chelfyddyd gain leol, hanes cymdeithasol, a hanes milwrol.

Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli yn Eglwys Santes Fair ac yn gartref i gasgliad unigryw yr Amgueddfa o arteffactau morwrol perthnasol ynghyd â gwybodaeth am longau sydd wedi’u hadeiladu yn lleol, y morwyr a’r capteiniaid.

Mae casgliad Storiel yn cynnwys bron i 10,000 o eitemau sy’n olrhain hanes Cymru gan gynnwys dodrefn, tecstilau, archaeoleg, cerameg, ffotograffiaeth a hanes cymdeithasol fel y Welsh Not.

Gorllewin Cymru a'r Canolbarth

Doc Penfro oedd gorsaf cychod hedfan fwya’r Ail Ryfel Byd a dyma ble’r adeiladwyd llong ofod o Star Wars y Millennium Falcon, sydd i’w gweld yn y ffilm arobryn enwog The Empire Strikes Back.

Amgueddfa ryngweithiol yn rhannu hanes lleol ac oriel gelf ryfeddol yn cynnwys gwaith artistiaid adnabyddus Cymru, fel Gwen John, Kyffin Williams a llawer mwy.

Dewch i ymweld â’r tŷ ble bu Dylan Thomas a’i deulu yn byw o 1949, ac i weld y sied enwog ble bu’n ysgrifennu Dan y Wenallt (Under Milk Wood).

Cyfle i ddysgu am Feddygon Myddfai, y doctoriaid enwocaf o Gymru o bosib, ac i weld y carreg y Gilfachwen - triniaeth y cyfnod ar gyfer y gynddaredd.

Yn rhodd i bobl Llanelli gan Foneddiges Howard Stepney yn 1912, mae Parc Howard nawr yn amgueddfa i’r teulu oll sy’n fwrlwm o greadigrwydd a chymuned.

Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru, ac yn drysordy diddorol o hanes Abertawe. Ym mhrif adeilad yr amgueddfa, mae yna fymi Eifftaidd, cegin Gymreig a mwy wedi’u harddangos mewn chwe oriel.

Mae'n 110 mlynedd ers geni Dylan Thomas ym 1914, a 150 mlynedd ers creu Parc Cwmdoncyn (”byd o fewn byd.." Dylan.)

Darganfyddwch gasgliad celf cyfan Richard Glynn Vivian, gan gynnwys darnau o bob rhan o’r byd, a adawyd yn ei ewyllys ‘er mwynhad pobl Abertawe’.

Mae’r arddangosfa ddifyr hon yn dathlu bywyd a gwaith y bardd adnabyddus Dylan Thomas.

Dewch i glywed hanes diwydiant ac arloesedd yng Nghymru, gan gynnwys y daith reilffordd gyntaf erioed yn y byd o’r gwaith haearn ym Mhenydarren i Gamlas Merthyr-Caerdydd.

Wedi'i naddu o un boncyff derw ac yn gysylltiedig â chrannog Llan-gors - preswylfa frenhinol yn ystod Teyrnas Brycheiniog, darganfuwyd y bad boncyff prin sydd yn Y Gaer yn 1925 ar waelod Llyn Llan-gors.

Mae'r amgueddfa yn casglu, cadw ac yn dehongli treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog hen sir Faesyfed. Caiff hyn ei adlewyrchu yn ei gasgliadau gwahanol ar ddaeareg, paleontoleg, archaeoleg, hanes naturiol, hanes cymdeithasol a chelf gain.

De Cymru

Wedi'i lleoli mewn hen orsaf heddlu o'r oes Fictoria, gan gynnwys celloedd gwreiddiol, mae Amgueddfa Porthcawl â hanes ym mhob cornel - ystafell ddosbarth, traciau rheilffordd, arddangosfeydd celf a miloedd o arteffactau diddorol am fywyd lleol.

Dewch i archwilio hanes lleol mewn carchar y 16eg ganrif. Mae'r amgueddfa hon yn cynnwys dwy res o gelloedd o 1576, sydd bellach yn cynnwys arddangosfeydd diddorol am fywyd lleol.

Ym mis Chwefror 1983, cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y byddai Glofa Lewis Merthyr yn cau, gan sbarduno 28 o lowyr i gynnal streic am bum mis, tra bod menywod lleol yn eu cynnal â brechdanau. Cynhaliwyd streic genedlaethol y glowyr yn fuan wedi hynny, rhwng 1984 a 1985.

Gall ymwelwyr â'r amgueddfa a'r oriel gelf ddysgu am dreftadaeth gyfoethog Merthyr Tudful o'r goncwest Rufeinig i'r Chwyldro Diwydiannol a thu hwnt. Mae rhaglen flynyddol hefyd o deithiau cerdded, sgyrsiau, gweithdai, llwybrau teuluol ac arddangosfeydd dros dro.

Wedi'i hagor ym 1986 yn hen Gapel Bedyddwyr Cymraeg y Tabernacl, mae'r Amgueddfa hon yn adrodd hanes ardal a drawsnewidiwyd, o gymuned dawel y Cymoedd i dref ddiwydiannol ffyniannus yng nghanol maes glo De Cymru.

Dewch i ddarganfod ble cynhyrchwyd porslen gorau'r byd unwaith a chael eich tywys o amgylch y safle gan un o'n gwirfoddolwyr croesawgar. Cewch gyfarfod rhai crochenyddion, cael cyfle i brynu cynnyrch unigryw, ac aros am de!

Mae’r amgueddfa awyr agored hon yn olrhain bywyd hanesyddol, diwylliant a phensaernïaeth y Cymry.

O Oriel Esblygiad Cymru a gweithiau celf gan Botticelli a Rembrandt, i arddangosfeydd arbennig megis un sy’n adrodd hanes streic y glowyr yn 1984; mae digon i’w weld yma.

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn arddangos stori Casnewydd o'r cyfnod cynhanesyddol i'r 20fed ganrif. Mae wedi bod yn casglu tystiolaeth o hanes, diwylliant ac amgylchedd Casnewydd ers 1888, ac mae arddangosfeydd dros dro bob amser yn cynnig rhywbeth newydd i'w archwilio.

Yma gallwch ddysgu am ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru gyda chasgliad yr amgueddfa o lestri Tsiapaneaidd addurnedig hyfryd.

Archwiliwch hanes Abertileri o'r Oes Efydd i ddyddiau'r pyllau glo, gyda chegin glöwr gwreiddiol, ffos yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a chap pêl-fas Arthur Scargill.

Lleoliad gwych i ddysgu mwy am hanes yr ardal, gan gynnwys cloddio glo, cynhyrchu haearn, Arglwyddes Llanofer a hanes Rhufeinig yng Nghymru.

Adeiladwyd y Neuadd Sirol ym 1724, ac mae’n fwyaf enwog am achos 1839/40 yr arweinydd Siartaidd John Frost ac eraill am uchel fradwriaeth yn ystod Gwrthryfel Casnewydd.

Camwch yn ôl mewn amser i ddarganfod hanes masnachu Cas-gwent, gan gynnwys cyflwyno Siarter y Dref ym 1524 – 500 mlynedd yn ôl!

Telerau ac Amodau'r Gystadleuaeth

1. Mae’r holl gystadleuaeth yn dechrau ar ddydd Sadwrn 25 Hydref 2025 ac yn gorffen ar ddydd Sul 12 Ebrill 2026.

2. Cynhelir dwy raffl:

  • Mynychu un amgueddfa yn ystod hanner tymor yr Hydref – dydd Mawrth 4 Tachwedd 2025.
  • Mynychu chwe amgueddfa erbyn 15 Ebrill 2026 – .

 

3. Ni roddir arian parod cyfwerth â’r wobr.

4. Nid yw pobl sy’n gweithio’n uniongyrchol â Ŵyl Amgueddfeydd Cymru, aelodau o’u teulu agos, a / neu bobl sy’n byw yn yr un cartref yn cael cymryd rhan.

5. Un cais i bob ymgeisydd.