Straeon Calan Gaeaf

Yr Ysgwrn

Pryd

30 Hydref 2025    
5:00 pm - 7:00 pm

Ble

Yr Ysgwrn
Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, Gwynedd, LL41 4UW
Loading Map....

Dewch i fwynhau noson o straeon Calan Gaeaf yng nghwmni’r storiwraig o fri, Mair Tomos Ifans! Bydd Mair yn rhannu straeon Calan Gaeaf traddodiadol Sir Feirionnydd efo ni.

Bydd y noson yn cynnwys straeon am ysbrydion a chreaduriaid dychrynllyd ond bydd yn addas i blant a phobl ifanc hefyd. Bydd cawl a diod ar gael i bawb o fewn eu tocyn.

Mae modd i ni gynnal y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru. Cynhelir y digwyddiad fel rhan o Wyl Amgueddfeydd Cymru.

Manylion y digwyddiad:

Pryd: 30 Hydref 2025
Lle: Yr Ysgwrn, Trawfynydd LL41 4UW
Cost: Am ddim