Perthnasedd Gwledig: Sut i adnabod, gofalu am a rhannu casgliadau gwledig
Hyfforddiant am ddim: Dydd Iau 21 Mawrth 2024 1-3pm, Ar-lein
Ydych chi eisiau teimlo’n fwy hyderus am ddefnyddio eich casgliad gwledig mewn ystod ehangach o straeon a gweithgareddau, gan greu profiad gwell i ymwelwyr?
Ydych chi eisiau datblygu gwell ymwybyddiaeth o’r llwybrau sydd ar gael i gael gwybodaeth, cyngor neu gymorth am faterion ynglŷn â chasgliadau gwledig?
Os ydych chi’n gweithio gyda chasgliadau gwledig ac amaethyddol neu’n gofalu amdanynt, mewn unrhyw rôl gyffredinol, mae’r Rhwydwaith Amgueddfeydd Gwledig (Rhwydwaith Pwnc Arbenigol ar gyfer casgliadau gwledig) wedi creu sesiwn hyfforddiant datblygu gwybodaeth ymarferol AM DDIM yn benodol i chi.
Cewch eich ysbrydoli a’ch caffael profiad ymarferol gan ein hyfforddwyr a fydd yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau sy’n gysylltiedig â defnyddio, adnabod a gofalu am gasgliadau gwledig i greu profiadau gwell i ymwelwyr, a sefydliadau mwy cynaliadwy.
Profwch werth rhwydweithio casgliadau gwledig gydag aelodaeth RMN am ddim o ddwy flynedd i ddatblygu eich dysgu.
Sut i archebu: Llenwch y ffurflen atodedig a’i anfon at Elizabeth.Bennett@gov.wales
Dyddiad cau i archebu erbyn: 5pm Dydd Mercher 13 Mawrth 2024
Llwyfan: Microsoft Teams
Hyfforddiant Llywodraeth Cymru – Datganiad o ddiddordeb: Hyfforddiant Casgliadau MDUK
Gyda chefnogaeth ariannol gan Art Fund for Museum Development, Llywodraeth Cymru