Canllaw i Ddechreuwyr ar Ofalu am ac Adnabod Casgliadau Tecstilau
Dydd Gwener 22 Mawrth, 10:30 – 13:00
Mae’r weminar hon yn gyflwyniad i decstilau i’r rhai heb fawr o brofiad o weithio gyda thecstilau. Os nad oes llawer o wybodaeth flaenorol am ofalu am gasgliadau tecstilau gyda chi, bydd hyn yn sylfaen ar gyfer datblygu pellach. Bydd yn eich helpu chi i adnabod rhai ffeibrau naturiol, a gofalu am gasgliadau tecstilau, gan ddefnyddio technegau a phrosesau syml.
Byddwn yn darparu detholiad o samplau anhysbys o decstilau i chi drwy’r bost, er mwyn i chi ddysgu wrth yr hyfforddwyr, a rhannu eich meddyliau gyda’r cynrychiolwyr eraill yn ystod y weminar.
Byddwch yn derbyn cyflwyniad llawn ffeithiau i adnabod a gofalu am decstilau fel bod gennych becyn cymorth cynhwysfawr i’w archwilio ymhellach.
Sut i gadw lle:
Llenwch y ffurflen atodedig a’i anfon at Elizabeth.Bennett@gov.wales
Dyddiad cau i archebu erbyn: 5pm Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2024
Llwyfan: Microsoft Teams
Hyfforddiant Llywodraeth Cymru – Datganiad o ddiddordeb: Hyfforddiant Casgliadau MDUK
Gyda chefnogaeth ariannol gan Art Fund for Museum Development, Llywodraeth Cymru