Canllaw i Ddechreuwyr ar Ofalu am ac Adnabod Casgliadau Plastig
Dydd Mawrth 26 Mawrth 2024, 10:30 – 13:00
Mae’r weminar hon yn gyflwyniad i’r rhai heb fawr o brofiad o weithio gyda phlastigau. Os nad oes llawer o wybodaeth flaenorol am ofalu am blastig gyda chi, bydd hyn yn sylfaen ar gyfer datblygu pellach. Bydd yn eich helpu chi i adnabod a gofalu am wrthrychau sydd wedi’u gwneud o blastig, gan ddefnyddio technegau a phrosesau syml.
Byddwn yn darparu detholiad o samplau anhysbys o blastig i chi drwy’r bost, er mwyn i chi ddysgu sut i adnabod mathau gwahanol o blastigau wrth yr hyfforddwyr, a rhannu eich meddyliau gyda’r cynrychiolwyr eraill yn ystod y weminar.
Byddwch yn derbyn cyflwyniad llawn ffeithiau i adnabod a gofalu am ddeunyddiau plastig fel bod gennych becyn cymorth cynhwysfawr i’w archwilio ymhellach.
Sut i gadw lle: Llenwch y ffurflen atodedig a’i anfon at Elizabeth.Bennett@gov.wales
Dyddiad cau i archebu erbyn: 5pm Dydd Gwener 15 Mawrth 2024
Llwyfan: Microsoft Teams
Hyfforddiant Llywodraeth Cymru – Datganiad o ddiddordeb: Hyfforddiant Casgliadau MDUK
Gyda chefnogaeth ariannol gan Art Fund for Museum Development, Llywodraeth Cymru