Wythnos Hanner Tymor Calan Gaeaf yng Nghanolfan Drefdaeth Doc Penfro
Gall plant ddod i mewn am ddim* yn ystod yr wythnos hanner tymor hon yng Nghanolfan Drefdaeth Doc Penfro! Rhwng y 26ain a’r 30ain o Hydref, dewch i fwynhau ysbryd Calan Gaeaf gyda helfeydd i’w codi arswyd arnoch, paentio wynebau dychrynllyd, a hwyl i’r teulu cyfan. Mae wythnos Calan Gaeaf yn amser perffaith i gyflwyno plant i’n hadeilad hanesyddol godidog, sy’n dathlu hanes morwrol, milwrol a diwylliannol ein tref. Byddant yn darganfod cychod hedfan anhygoel o’r Ail Ryfel Byd; ein harddangosfa newydd gyffrous am yr HMS Erebus, sy’n adrodd hanes taith anlwcus Franklin i’r Arctig; a dysgu sut y cafodd y llong ofod fwyaf eiconig yn Hollywood, y Millennium Falcon, ei hadeiladu yma yn Doc Penfro! Yn ogystal â bod yn lle sy’n croesawu teuluoedd, rydym hefyd yn croesawu cŵn.
Dyddiad dechrau: 26 Hydref
Dyddiad gorffen: 30 Hydref
Amser dechrau: 10am
Amser gorffen: 4pm
Lleoliad: Canolfan Drefdaeth Doc Penfro, Royal Dockyard Chapel, Meyrick Owen Way, Doc Penfro, Sir Benfro SA72 6WS
Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro
Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro
Pembroke Dock Heritage Centre, Dockyard Chapel, Meyrick Owen Way, Pembroke Dock, UK