Wythnos Calan Gaeaf yng Ngharchar Rhuthun

Camwch i mewn i waliau hanesyddol Carchar Rhuthun y Calan Gaeaf hwn ar gyfer antur hanner tymor arswydus heb ei debyg.  O lwybrau ysbrydion a hwyl arswydus i’r teulu, i dwba lwcus rhyfeddol a gweithgareddau dychrynllyd o ddifyr, mae rhywbeth i bawb i’w fwynhau.

I’r rhai sy’n teimlo’n ddewr ofnadwy, mae ein nosweithiau Ar Ôl Iddi Dywyllu yn dod â’r Carchar yn fyw mewn ffordd hollol newydd, gydag agoriad hwyr y nos atmosfferig a theithiau dan olau tortsh trwy’r coridorau llawn cysgodion.

Pryd mae’n cael ei gynnal?

Byddwn ar agor ar gyfer wythnos Calan Gaeaf:

  • Dydd Sadwrn 25 Hydref i ddydd Mawrth 28 Hydref 2025, 11am tan 4pm (mynediad olaf am 3pm)
  • Dydd Mercher 29 Hydref i ddydd Gwener 31 Hydref, 11am tan 8pm (mynediad olaf am 7pm) – Nosweithiau Ar Ôl Iddi Dywyllu

Bydd teithiau dan olau tortsh yn cael eu cynnal ar y nosweithiau Ar Ôl Iddi Dywyllu hwyr y nos yn unig, gan ddechrau am 6pm.