Jŵls Williams: Collaged Creatures (11-15)

Plas Glyn-y-Weddw
Hydref 28, 2026 – Hydref 28, 2026
1:00 pm - 3:00 pm

I blant 11-15 oed
£5 y pen

Dewch i ryddhau ochr dywyll eich plentyn – yn y ffordd fwyaf creadigol bosib! Fel rhan o’n dathliadau Calan Gaeaf Gwyrdd ym Mhlas Glyn-y-Weddw, ymunwch â’r artist dawnus Jŵls Williams ar gyfer gweithdy celf cyffrous, ymarferol sy’n canolbwyntio ar ddyfeisio Creaduriaid y Nos arswydus.

O dylluanod ac ystlumod cysgodol i angenfilod rhyfeddol yn stelcian yn y coed, bydd plant yn defnyddio eu dychymyg gan ddefnyddio cyfuniad cyfoethog o beintio, argraffu, a thechnegau gludwaith. Gan weithio gyda sgrapiau papur, cerdyn, paent diwenwyn, a defnyddio offer a thechnegau argraffu, bydd artistiaid ifanc yn arbrofi gyda gwead, haenau a phatrymau i ddod â’u bwystfilod y nos yn fyw ar bapur.

Oedolyn i fod hefo’r plentyn

Plas Glyn-y-Weddw

Pen Y Parc, Glynyweddw Estate, Llanbedrog, Pwllheli LL53 7TT, UK