Hwyl Calan Gaeaf yng Ngharchar Rhuthun dros wyliau hanner tymor yr Hydref!
Bydd drysau’r celloedd ar agor yng Ngharchar Rhuthun yn ystod gwyliau arswydus hanner tymor yr Hydref fel rhan o Wythnos Amgueddfeydd Cymru.
Bydd ar agor bob dydd o ddydd Sadwrn 26 Hydref tan ddydd Sadwrn 2 Tachwedd, rhwng 10:30am a 4pm (mynediad olaf am 3pm).
Dewch draw i weld y Carchar yn ystod Calan Gaeaf.
Rhowch gynnig ar wneud crefftau Calan Gaeaf neu dilynwch un o’r llwybrau o amgylch y Carchar.
Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynnwys yn y pris mynediad.
Welwn ni chi yn y carchar, os ydych chi’n ddigon dewr…