Diwrnod Agored – Amgueddfa Hanes Natur Brambell Prifysgol Bangor

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell Prifysgol Bangor ar agor i’r cyhoedd ar ddydd Sadwrn, 2 Tachwedd rhwng 11am a 3pm.

Bydd hwn yn gyfle i ymweld ag Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, nad yw fel arfer ar agor i’r cyhoedd, er mwyn dysgu mwy am y sbesimenau sy’n cael eu harddangos. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r myfyrwyr sydd ar gael, a bydd cornel gweithgareddau i blant o bob oed.

Poster y digwyddiad yn Amgueddfa Brambell / Poster for the event at Brambell University.