Bwystfilod Bach

Adeilad Brambell Building
Hydref 31, 2026
10:00 am - 3:00 pm

Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn Amgueddfa Prifysgol Bangor

Ymunwch â ni am ddiwrnod creadigol a theuluol ar ddydd Sadwrn 31 Hydref yn yr Amgueddfa Byd Natur yn Adeilad Brambell, Prifysgol Bangor fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Gweithdai Ffeltio gyda Nodwydd i Blant (8–12 Oed)

Bydd yr artist lleol Elen Williams yn arwain dau weithdy ymarferol, lle caiff plant gyfle i ddysgu ffeltio gyda nodwydd er mwyn creu eu Bwystfilod Bach eu hunain, wedi eu hysbrydoli gan y natur a’r sbesimenau diddorol sydd i’w cael yng nghasgliadau’r Amgueddfa.

Amseroedd y Gweithdy:

·        10:00am – 12:00pm

·        1:00pm – 3:00pm

Nifer y llefydd: Dim mwy na 10 plentyn ym mhob sesiwn 

💷 Yn rhad ac am ddim 

Rhaid archebu (Noder bod rhaid i bob plentyn fod ag oedolyn gyda nhw drwy gydol yr ymweliad.)

Adeilad Brambell Building

Deiniol Road, Bangor LL57 2EA, UK