Darganfyddwch Hud a Lledrith Amgueddfeydd Cymru dros Hanner Tymor!

September 12, 2024 |

Bydd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn dychwelyd yr hanner tymor hwn, gan gynnig cyfres gyffrous o ddigwyddiadau ledled y wlad, gan ddathlu hanes cyfoethog Cymru a hud a lledrith y Calan Gaeaf. Cynhelir yr ŵyl rhwng dydd Sadwrn 26 Hydref a dydd Sul 3 Tachwedd, gan wahodd teuluoedd, pobl sy’n dwli ar hanes, a’r rhai sy’n frwd dros Galan Gaeaf i archwilio amrywiaeth o weithgareddau rhad ac am ddim sy’n addas i deuluoedd ac sy’n dod â hanes a thraddodiadau Cymru’n fyw.

Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru Bydd yr Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru yn dychwelyd: eich porth i ddarganfod hanes unigryw Cymru. Gallwch gasglu pasbort o unrhyw un o’r amgueddfeydd sy’n cymryd rhan yn ystod yr hanner tymor a chychwyn ar antur, gan gasglu stampiau wrth i chi ymweld â gwahanol leoliadau. Wrth i chi deithio o amgueddfa i amgueddfa, byddwch yn darganfod straeon hynod ddiddorol, trysorau diwylliannol, a chwedlau hynafol.

Gwreiddiau Celtaidd ein Calan Gaeaf Bydd llawer o amgueddfeydd yn ychwanegu helfa arswydus yr hanner tymor hwn, gan ddarparu cyfuniad hudolus o hanes a hwyl Calan Gaeaf, gan sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb. Gall ymwelwyr iau fwynhau helfa ysbrydion, a llyfryn rhad ac am ddim sy’n olrhain traddodiadau Calan Gaeaf y gorffennol yng Nghymru, gan gynnwys lanterni meipen, yr ‘Hwch Ddu Gwta’ brawychus, mwyar budron, carreg lwcus, a’r ‘Stwmp Naw Rhyw’ diddorol.

Digwyddiadau Ledled Cymru Lle bynnag y byddwch chi yng Nghymru dros hanner tymor, mae gan yr ŵyl rywbeth arbennig ar y gweill. Dewch yn ôl i’r wefan hon ddechrau mis Hydref i wirio ein holl ddigwyddiadau, ond dyma gipolwg sydyn:

  • Yng Nghanolbarth Cymru, helpwch i greu ‘Ogof y Ddraig’ yn Rhaeadr neu gymerwch ran mewn gweithdai dan arweiniad artistiaid sy’n archwilio gwaith celf lleol a chasgliadau amgueddfeydd Ceredigion.
  • Bydd Gogledd Cymru yn cynnig sesiynau gwefreiddiol llawn cyffro, gyda gweithdai celf yn Amgueddfa Syr Henry Jones, disgo anghenfil a llwybrau difyr yn Amgueddfa Dyffryn Maes Glas, a llwybr Chwedlau a Llusernau ym Mhenmaenmawr.
  • Yng Ngorllewin Cymru, heriwch eich hun gydag ystafelloedd dianc yng Nghanolfan Eifftaidd Abertawe neu mwynhewch weithgareddau ymarferol fel peintio wynebau a chwisiau yn Noc Penfro. Peidiwch chwaith â methu parti Calan Gaeaf Dinbych-y-pysgod, lle byddant yn adrodd straeon ac yn cynnal gweithgareddau cyfeillgar i’r holl deulu.
  • Bydd De Cymru yn dod â hanes yr Ail Ryfel Byd i fyw ym Mlaenafon gydag ail-greadau milwrol, tra bydd llwybr Calan Gaeaf Castell Cyfarthfa yn cynnig crefftau arswydus a ffeithiau diddordol am wreiddiau Calan Gaeaf.

Ymunwch yn yr Hwyl! Peidiwch ag ymweld ag amgueddfa yn unig dros hanner tumor, ond ymgollwch yn y straeon, y chwedlau a’r dirgelion sy’n creu ein Cymru unigryw. Gyda’r Her Pasbort ac amrywiaeth eang o weithgareddau difyr, dyma’r amser i archwilio byd hynod ddiddorol amgueddfeydd Cymru.

Gwnewch yr hanner tymor hwn yn un i’w gofio, gan rannu eich profiadau o’r ŵyl ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #LlwybrauHanesCymru