Dod yn Ymddiriedolwr
Er ei fod yn gwbl wirfoddol/ di-dâl, mae bod yn Ymddiriedolwr yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi ddatblygu eich hun tra’n cefnogi sefydliad gwerthfawr.
Byddwch yn gwella eich sgiliau arwain a'ch potensial yn y farchnad swyddi drwy wirfoddoli fel aelod o’r bwrdd.
Byddwch yn gweithio gyda bwrdd ymddiriedolwyr cyfeillgar ac ymroddedig sy'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac sydd â chyfoeth o gysylltiadau. Mae'r ymddiriedolwyr hefyd yn ymgysylltu â rhwydwaith eang ei ystod.
Byddwch yn dod i ddeall sut mae Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru yn gweithredu a sut y mae’n dathlu, yn cefnogi ac yn eiriol dros y sector amgueddfeydd yng Nghymru. Mae nifer o’r ymddiriedolwyr yn gweithio ar is-bwyllgorau i gwblhau nodau'r Cynllun Busnes, ac mae ganddynt gwell dealltwriaeth o gyfraith Elusennau.
Byddwch yn helpu i lywio canlyniadau amcanion yr elusen a gwneud gwahaniaeth i Amgueddfeydd ledled Cymru drwy eiriolaeth, gwaith ymchwil ac arfer gorau. Bydd hyn yn cyfrannu at sicrhau bod y sector yn gadarn ac ar gael i genedlaethau'r dyfodol.
Mae'r Ffederasiwn yn cydnabod bod ymddiriedolwyr yn gweithio'n wirfoddol ac yn cynnig eu gwybodaeth a'u hamser i gefnogi nodau'r sefydliad. Rydym yn mabwysiadu arfer gorau mewn llywodraethu ac felly byddwn yn eich cefnogi yn ystod eich amser gyda ni drwy:
Drefnu cwrs sefydlu trylwyr i chi;
Clustnodi a darparu hyfforddiant i chi fel ymddiriedolwr;
Sicrhau hyfforddiant ar gyfer swyddogaethau penodol fel ymddiriedolwr.
Penodir ymddiriedolwyr am gyfnod o dair blynedd fel arfer. Gellir ailbenodi am ddau dymor (6 blynedd yn olynol) yn yr un rôl. Rhaid i dair blynedd fynd heibio cyn ceisio cael eich ailethol i'r un rôl.
Fel arfer cynhelir pedwar cyfarfod y flwyddyn o’r Bwrdd a gynhelir fel arfer fis Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr. Hefyd cynhelir cyfarfod blynyddol cyffredinol yn yr hydref a chynhadledd yr amgueddfeydd rhwng mis Mawrth a mis Ebrill. Mae cyfarfod bwrdd yr ymddiriedolwyr ar-lein yn para rhyw 3-4 awr ac amser ychwanegol i baratoi. Mae cyfarfodydd ar y safle fel arfer yn cymryd diwrnod cyfan i roi cyfle i ymweld ag arddangosfeydd yr amgueddfa neu ddysgu am fentrau newydd. Fel ymddiriedolwr, drwy wirfoddoli i fod yn rhan o is-bwyllgor i gwblhau tasg benodol, bydd hyn yn golygu ymrwymiad amser ychwanegol. Mae angen i ymddiriedolwyr ymrwymo'r amser angenrheidiol i fod yn effeithiol.
Mae amrywiaeth yn ategu effeithiolrwydd, arweinyddiaeth a phenderfyniadau'r Bwrdd, gan gydnabod bod amrywiaeth yn hanfodol er mwyn i fyrddau fod yn wybodus ac yn ymatebol ac yn gallu llywio newidiadau sy'n wynebu'r sector amgueddfeydd. Mae'r term 'amrywiaeth' yn cynnwys y naw nodwedd warchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn ogystal â gwahanol gefndiroedd, profiadau bywyd, llwybrau gyrfa ac amrywiaeth meddwl.
Mae’r Bwrdd yn ymdrechu i fod yn fwy effeithiol drwy gynnwys amrywiaeth o safbwyntiau, profiadau a sgiliau, gan fod byrddau y mae eu hymddiriedolwyr â chefndir a phrofiad gwahanol yn fwy tebygol o annog trafodaeth a gwneud penderfyniadau gwell.
Mae cefndir proffesiynol yn unrhyw un o’r meysydd canlynol yn ddymunol (er nad yw’n gyfyngedig) i sicrhau bwrdd cydnerth o ymddiriedolwyr.
Amgueddfeydd ac Orielau
Arweinyddiaeth Busnes
Datblygiad Digidol
Rheoli Casgliadau
Rheoli Atyniadau i Ymwelwyr
Marchnata a Chyfathrebu
Cadwraeth
Amrywiaeth
Cyllid/ Codi arian
Addysg
Y Gyfraith
Ymchwil Academaidd
Twristiaeth
Diwydiannau Creadigol
Archaeoleg
Ailddatblygu cyfalaf
TG/ Datblygu Digidol
Ymgysylltu Cymunedol
Cadwch lygad am gyfleoedd i ddod yn ymddiriedolwr yn ein ffrwd newyddion.
Fel arfer caiff Ymddiriedolwyr eu hethol yn y cyfnod cyn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol yn yr Hydref.