Yr hanner tymor hwn, mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn taflu goleuni ar ein hamgueddfeydd bach ac annibynnol anhygoel ledled Cymru – mae llawer yn cynnig gweithgareddau a mynediad am ddim (gan gynnwys sesiynau galw heibio) tan 2 Tachwedd.
Amgueddfeydd Bach, Croeso Mawr
Tra mae safleoedd Amgueddfa Cymru yn enwog am fod yn rhad ac am ddim, mae llai ohonom yn ymwybodol bod dwsinau o’n hamgueddfeydd bach, yn aml dan reolaeth gwirfoddolwyr yn unig, hefyd yn agor eu drysau drwy gydol y flwyddyn heb godi ffi. Mae’r ŵyl eleni wedi ysbrydoli Amgueddfa Llandudno i beidio â chodi ffi dros yr hanner tymor, gyda llawer mwy yn cynnig mynediad am ddim 12 mis y flwyddyn gan gynnwys Amgueddfa Caerdydd, Amgueddfa’r Bontfaen, Oriel Môn, ac Amgueddfa Sir Gâr. Mae’r adeiladau hyn llawn straeon sy’n dod â hanes Cymru’n fyw.
Wrth gwrs, mae rhai amgueddfeydd yn codi ffi fach – fel Amgueddfa Porthcawl (£3 oedolion, £1 plant) – gan helpu i ofalu am dreftadaeth leol i genedlaethau’r dyfodol.
Hwyl Am Ddim!
Mae llawer o’r 50+ o amgueddfeydd sy’n cymryd rhan eleni hefyd yn cynnig gweithgareddau yn rhad ac am ddim i deuluoedd drwy gydol hanner tymor. Enghreifftiau gwych fel:
Cystadleuaeth Tŷ Ysbrydion yn Amgueddfa Parc Howard, Llanelli
Straeon Calan Gaeaf a chawl am ddim yn Yr Ysgwrn
Sesiynau Crefft i’r Teulu yn Amgueddfeydd Cas-gwent a’r Fenni
Clwb Celf Calan Gaeaf yn Oriel Môn
Llyfryn Calan Gaeaf am ddim yn Amgueddfa Caerdydd
Hefyd, peidiwch â cholli’r llyfryn am ddim ‘Hanes Hwyl’ gan y bardd Aneirin Karadog, sy’n dathlu llawenydd, creadigrwydd a chymuned Cymru.
Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru
Gallwch godi pasbort am ddim yn unrhyw amgueddfa sy’n cymryd rhan, neu lawr lwytho copi gartref, i ddechrau casglu stampiau o’r 34 amgueddfa sy’n cymryd rhan yn yr her.
Ewch i un amgueddfa erbyn 2 Tachwedd i gymryd rhan mewn raffl am becyn gwneud den
Ewch i chwe amgueddfa erbyn y Pasg 2026 am gyfle i ennill sgwter
Fforddiadwy
Mewn cyfnod pan fo cyllidebau yn dynn, mae’r Ŵyl yn profi nad oes rhaid i ddiwylliant gostio ffortiwn. Mae amgueddfeydd yn fannau cynnes, croesawgar sy’n cynnig adloniant, dysgu a chysylltiad – cyfle i ddatgelu trysorau yn eich milltir sgwâr a chreu atgofion gyda’ch gilydd.
Felly, dewch o hyd i’ch amgueddfa agosaf, ac ymunwch yn yr hwyl!