
Croeso! Newyddion gwych i deuluoedd a haneswyr brwdfrydig – mae’r Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru yn dychwelyd ar 25 Hydref 2025, gyda 34 o amgueddfeydd yn cymryd rhan ledled Cymru. Gyda hwyl i’w gael ym mhob un amgueddfa neu oriel, dyma’r cyfle perffaith i ddarganfod y trysorau sydd yn eich milltir sgwâr.
Beth yw’r cynnig?
O gychod boncyff hynafol a mwmïau Eifftaidd i sied ysgrifennu Dylan Thomas a man geni y daith reilffordd gyntaf y byd, mae amrywiaeth anhygoel o amgueddfeydd ac orielau yn barod i groesawu ymwelwyr.
Y gwobrau
Dyma’r rhan gyffrous – mae dau gyfle i ennill!
Ewch i UN amgueddfa erbyn diwedd hanner tymor yr Hydref (2 Tachwedd 2025) a gallech ennill pecyn creu cuddfan – sy’n berffaith ar gyfer anturiaethau newydd, hydrefol!
Ewch i CHWE amgueddfa erbyn diwedd gwyliau’r Pasg (12 Ebrill 2026) a gallech ennill sgwter!
Sut i gymryd rhan
- Casglwch eich pasbort am ddim o unrhyw amgueddfa sy’n cymryd rhan, neu lawr lwythwch fan hyn
2. Ewch i ymweld ag amgueddfa a chael eich pasbort wedi’i stampio
3. Llenwch y ffurflen ar-lein gyda’ch manylion (mae hynny’n bosib ar ôl UN ymweliad yn unig!)
4. Parhewch i archwilio a chasglu stampiau (ac ailadroddwch y broses ar ôl CHWE ymweliad)!
Dyna ni – dim rheolau cymhleth, dim angen dangos eich pasbort. Dim ond ymweld, archwilio, ac i ddod o hyd i ychydig o hwyl!
Mae’r her yn rhedeg o 25 Hydref 2025 tan 12 Ebrill 2026, gan roi hen ddigon o amser i chi ddarganfod amgueddfeydd newydd ledled Cymru. Beth am wneud cenhadaeth deuluol i archwilio gwahanol gorneli’r wlad a dysgu rhywbeth newydd ym mhob un lle? Yn sicr, fe gewch groeso cynnes!
Yn barod i ddechrau eich antur? Dewch o hyd i’r amgueddfa agosaf sy’n cymryd rhan a chasglwch eich pasbort. Pob lwc!
#LlwybrauHanesCymru