Y Llwybr Diod Hud – Amgueddfa Sir Gâr

Carmarthenshire Museum
Y Llwybr Diod Hud - Amgueddfa Sir Gâr

Pryd

25 Hydref 2025 - 2 Tachwedd 2025    
10:00 am - 5:00 pm

Ble

Carmarthenshire Museum
Abergwili , Carmarthen, SA31 2JG

Event Type

Loading Map....

Mae’r Llwybr Diod Hud  yn ôl yn ystod hanner tymor mis Hydref – ac mae angen eich help chi arnom ni! Mae staff ein hamgueddfa i gyd wedi cael salwch dirgel, a’r unig ffordd i wella  yw cwblhau rhai ryseitiau arbennig iawn. Allwch chi ddod o hyd i’r  cynhwysion coll a bragu’r ddiod i’n gwneud ni’n iach eto?

Yn ystod y cyfnod canoloesol yn Sir Gâr , os oeddech chi’n teimlo’n sâl efallai  y byddech wedi gofyn am gymorth gan  Feddygon enwog Myddfai . Gan ddefnyddio perlysiau, blodau a meddyginiaethau naturiol eraill, roedd y   iachawyr medrus hyn yn creu diod i drin  cleifion. Wedi’i  hysbrydoli gan hyn , mae’r amgueddfa wedi cymysgu ei diodydd  hudolus ei hun – ond yn anffodus oherwydd ein salwch , rydyn niwedi colli rhai o’r cynhwysion hanfodol.

Dilynwch y Llwybr Diod Hud  o amgylch yr amgueddfa, datryswch y cliwiau a dewch o hyd i’r perlysiau a’r gwrthrychau cudd sydd eu hangen i gwblhau’r ryseitiau. Gyda’ch help chi, bydd y ddiod hud yn cael ei  hadfer, y salwch yn diflannu , a byddwch chi’n ennill gwobr haeddiannol am eich ymdrechion.

Mae’rLlwybr Diod Hud yn £2.50 y llwybr ac yn hwyl i bob oed. Mae’n weithgaredd teuluol perffaith yn ystod gwyliau hanner tymor.  Ar gael bob dydd o ddydd Sadwrn 25 Hydref i ddydd Sul 2 Tachwedd yn Amgueddfa Sir Gâr.

Dyddiadau

Dydd Sadwrn, 25 Hydref 2025 – Dydd Sul, 2 Tachwedd 2025

Amser

Bob dydd, 10yb – 5yp

Lleoliad

Amgueddfa Sir Gâr

Pris

£2.50 y llwybr