Dydd Gwener 31 Hydref, 1.00-4.00
Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd: ‘Quivering Quills and Spooky Spells’
Ymunwch â ni am weithgaredd creadigol ymarferol yn gwneud cwils, dysgu sut i wneud memrwn wedi’i heneiddio a defnyddio’r ddau i greu swyn bwganllyd hudol! Bydd cerddi Dylan Thomas am yr hydref yn ein hysbrydoli hefyd.
Defnyddir deunyddiau wedi’u hailgylchu, eu hailbwrpasu ac sy’n amgylcheddol gynaliadwy yn ein holl weithdai. Byddwn yn defnyddio plu wedi’u gollwng yn naturiol i wneud y cwils y mae ein ffrindiau yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli wedi bod yn ddigon caredig i’w casglu ar ein cyfer.
Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.
Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w harchwilio yn ein harddangosfa.
Hwyl i deuluoedd â phlant o bob oedran.
Galw heibio, am ddim
Ariennir y digwyddiad hwn gan Lywodraeth Cymru drwy Dîm Amgueddfeydd yr Is-adran Diwylliant a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.