Diwrnod ‘Darlunio gyda goleuni’

Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Diwrnod 'Darlunio gyda goleuni'

Pryd

28 Hydref 2025    
10:00 am - 4:00 pm

Ble

Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Sgwâr John Frost, Casnewydd, NP20 1PA

Event Type

Loading Map....

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau cyffrous yn ystod hanner tymor? Beth am ymweld â ni yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd am brofiad unigryw ‘Llunio gyda Goleuni’. Defnyddiwch y rhaglen realiti rhithiol Tilt Brush neu ymunwch â’r artist lleol Andy O’Rourke i arbrofi gyda thechnegau peintio golau a defnyddio eich creadigrwydd mewn 3D.

Pryd: Dydd Mawrth, 28 Hydref

Tilt Brush – 10am i 4pm

Peintio Goleuni gydag Andy O’Rourke – 11am i 3pm

Ble: Oriel Gelf ar y 3ydd llawr

Galwch heibio, nid oes angen archebu.

Mae Tilt Brush yn rhaglen peintio realiti rhithiol 3 dimensiwn, a byddwch yn gwisgo clustffon realiti rhithiol. Bydd dau fwth realiti rhithiol ar gael o 10am i 4pm . Argymhellir Tilt Brush ar gyfer oedrannau 10+ a bydd technegydd profiadol yn eich tywys ar hyd y ffordd. Mae’r gweithgaredd hwn yn cael ei hwyluso gan Bryght Ltd. Cyflwynir sesiynau 10-15 munud o hyd,  os yw’r galw’n uchel.

Neu ymunwch ag Andy O’Rourke i greu paentiadau goleuni rhwng 11am a 3pm. Beth yw’r paentio yma? Mae’n dechneg ffotograffig chwareus, trochol, a hynod ddiddorol sy’n cyfuno celf, technoleg, a hwyl bur. Lluniwch yn yr awyr gan ddefnyddio offer golau unigryw, ac mae ffotograffwyr medrus yn dal y llwybrau golau disglair hynny mewn amser real, gan greu gweithiau celf digidol trawiadol, personol. Byddwch yn ymwybodol y bydd goleuadau’n fflachio a stroboscopau, fydd efallai’n anaddas i rai bobl.

Mae’r diwrnod yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy grant Cronfa Ffyniant.