
Ydych chi’n chwilio am weithgareddau cyffrous yn ystod hanner tymor? Beth am ymweld â ni yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd am brofiad ‘Darlunio gyda Golau’ unigryw. Cyfle i ddefnyddio’r rhaglen realiti rhithwir Tilt Brush neu i ymuno â’r artist lleol Andy O’Rourke i arbrofi gyda thechnegau paentio â golau a rhyddhau’ch creadigrwydd mewn 3D.
Pryd: Dydd Mawrth 28 Hydref
Tilt Brush – 10am i 4pm
Paentio â Golau gydag Andy O’Rourke – 11am i 3pm
Ble: Yr Oriel Gelf, ar y 3ydd llawr
Galwch heibio, does dim angen cadw lle.
Cymhwysiad paentio realiti rhithwir 3 dimensiwn yw Tilt Brush, a byddwch yn gwisgo penset VR. Bydd dau fwth realiti rhithwir wedi’u hwyluso ar gael rhwng 10am a 4pm ar y diwrnod. Argymhellir Tilt Brush ar gyfer oedrannau 10+ a bydd technegydd profiadol yn eich tywys ar hyd y ffordd. Mae’r gweithgaredd hwn yn cael ei hwyluso gan Bryght Ltd. Bydd terfyn amser o 10-15 munud yn cael ei gyflwyno os bydd y galw’n uchel.
Neu ymunwch ag Andy O’Rourke i baentio â golau rhwng 11am a 3pm. Beth yw paentio â golau? Mae’n dechneg ffotograffig chwareus, ymdrochol a hynod ddiddorol sy’n uno celf, technoleg a hwyl a sbri. Darluniwch yn yr awyr gan ddefnyddio offer golau unigryw, a gall ffotograffwyr medrus dynnu lluniau o lwybrau golau disglair mewn amser real, gan greu celf ddigidol syfrdanol a phersonol. Byddwch yn ymwybodol y bydd goleuadau fflachiol a strôb, na fydd yn addas i bawb.
Mae’r diwrnod yn cael ei ariannu drwy grant Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.