Diwrnod Daeareg: Dewch â Charreg

Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum
Diwrnod Daeareg: Dewch â Charreg

Pryd

26 Hydref 2025    
10:00 am - 4:00 pm

Ble

Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum
Old St. Mary's Church, Stryd-y-Llan, LL53 6LB

Event Type

Loading Map....

Ar Ddydd Sul y 26ain o Hydref, bydd gweithgaredd ‘Diwrnod Daeareg: Dewch â Charreg’ i blant yma yn yr Amgueddfa, yn dechrau am 10:00.

Diolch i grantiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Tîm Amgueddfeydd, yr Adran Ddiwylliant, a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, a mewn cyd-weithrediad â Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, GeoMôn, GwyrddNi, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd amrywiaeth o weithgareddau fydd yn rhoi cyfle i ddysgu am gysylltiad daeareg gyda’r byd o’n cwmpas, a sut gellir dysgu mwy am hanes, bywydeg a newid hinsawdd yn ei sgil. Bydd cyfle i edrych ar y gwahanol fathau o gerrig a chen ym muriau’r Amgueddfa, dyfalu pwysau carreg, dod a charreg eu hunain i gael gwybod ei gefndir, a chael sgwrs am y cysylltiadau yn hanes Llŷn ac Ynys Môn.

Bydd y gweithgareddau hyn yn mynd ymlaen yn ystod y dydd, felly gellir aros drwy’r dydd, neu ddewis digwyddiad i ddod iddo. Mae mynediad am ddim, ond mae angen archebu lle. Hefyd, rhaid i blant ddod gydag oedolyn, a dewch a bocs bwyd os am aros drwy’r dydd.  Gellir archebu lle neu holi am amserlen benodol y dydd drwy ebostio afllmm@yahoo.com.