
Gweithdy celf pyro yn ymwneud hefo mytholeg Cymru
Straeon Ysbrydion Cymreig trwy’r celf Pyrograffig gyda Mr Kobo
Fel rhan o wyl amgueddfeudd Cymru mae Storiel yn falch o gyflwyno cyfres o weithdai rhyngweithiol crasgelf (Pyro Art) sy’n gwahodd plant a theuluoedd i archwilio byd dirgel chwedlau Cymreig trwy’r celf hen o pyrograffeg (llosgi coed).
Bydd mynychwyr y gweithdai awr yma yn dysgu sut i baentio a chreu gyda’r dull celf unigryw o wneud gweithiau celf coed dan dylanwad straeon a chymeriadau ysbrydol fel Y Ladi Wen, Yr Hwch Ddu Gota a Jac y Lantarn, gan ddathlu’r chwedlau a’r straeon o’r Celtiaid hynafol.
Bydd pob sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniad byr i un neu fwy o’r straeon hyn, gan chwistrellu meddwl dychmygus a phenderfyniad creadigol. Dan arweiniad yr artist lleol Mr Kobo (Nader Kohbodi), bydd y cyfranogwyr yn dylunio ac yn ychwanegu eu delweddau mewn coed.
Diben y gweithdai’n ceisio cysylltu mynegiant creadigol â dysgu etifeddiaeth Gymreig, gan gyfuno straeon, crefftau traddodiadol, a defnydd o dermau, straeon a chymeriadau Cymraeg.
Sesiwn 1: ARCHEBWCH YMA
Sesiwn 2: ARCHEBWCH YMA
Sesiwn 3: ARCHEBWCH YMA
Sesiwn 4: ARCHEBWCH YMA
Gweithdai teulu fydd rhain, bydd plant dan 11 angen rhiant neu gwarchodwr hefo nhw.
Ariannwyd y gweithgaredd yma gan gronfa Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a Senedd Cymru