Dathlu ‘Hwyl’ yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru 2025

Hydref 24, 2025 |

Croeso! Yn ystod Ŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, rydyn ni’n falch o gyflwyno adnodd newydd sbon sy’n dathlu ochr ysgafnach hanes Cymru – llyfryn ‘Hanes Hwyl’, wedi’i ysgrifennu gan y bardd Aneirin Karadog.

Mi fydd dros 50 o amgueddfeydd yn cymryd rhan dros hanner tymor yr Hydref, rhwng 25 Hydref a 2 Tachwedd, gyda llawer ohonynt yn cynnig y llyfryn dros yr ŵyl a hynny yn rhad ac am ddim.

Beth sydd yn y llyfryn?

Mae ‘hwyl’ yn air unigryw i’r Gymraeg ac mae’r llyfryn yn mynd ag ymwelwyr ifanc ar daith drwy ‘Gwyliau Gwych Cymru’ o frwydrau ffraethineb chwareus y Fari Lwyd ar ddechrau’r flwyddyn i’r Eisteddfod Genedlaethol lle mae beirdd yn cystadlu am y Gadair. Mae’n archwilio traddodiadau coginio Cymreig fel Pice ar y Maen a Bara Brith, traddodiad barddoniaeth y gynghanedd a ysbrydolodd Dylan Thomas, a hen chwaraeon gwyllt Cymreig megis Bando a Char Gwyllt (sef y roller coaster cynharaf y byd Efallai?!).

Mae’r llyfryn yn cynnwys gweithgareddau hwyliog ar gyfer gwahanol oedrannau: pos cysylltu’r dotiau i ddatgelu’r Fari Lwyd, drysfa i helpu’r bardd i ennill y Gadair, her gynghanedd, ac adran i ddylunio cacen Gymreig newydd sbon.

Pam mae’n bwysig

Mae’r wythnos hon yn nodi pen-blwydd trychineb Aberfan, un o ddyddiau tywyllaf hanes Cymru. Wrth i ni gofio’r 116 o blant a 28 o oedolion a gollodd eu bywydau ar 21 Hydref 1966, cawn ein hatgoffa pam mae’n bwysig i amgueddfeydd adrodd nid yn unig straeon ein gorffennol a’r trasiedïau a’n siapiodd, ond hefyd y llawenydd yn ein bywydau.

Nid yw hanes yn ymwneud â dioddefaint yn unig, ond hefyd y ffordd llwyddodd pobl i ffynnu a dod o hyd i eiliadau o hapusrwydd. Trwy archwilio’r ‘hwyl’ yn hanes Cymru, mae plant yn darganfod nad goroeswyr yn unig oedd eu hynafiaid, ond pobl a greodd gwyliau, a ddyfeisiodd gemau, a ysgrifennodd barddoniaeth, ac a ddaeth o hyd i wahanol ffyrdd i ddathlu bywyd. O gacennau a grëwyd ym mhyllau glo i wyliau i godi calon, rydym yn creu darlun mwy dynol a chyflawn o’r gorffennol.

Dewch o hyd i’ch amgueddfa leol a gadewch i ni ddathlu gyda’n gilydd!

#LlwybrauHanesCymru #Hwyl