Gan fod Calan Gaeaf yn disgyn ar ddydd Gwener eleni, mae’n golygu bod y tymor arswydus yn parhau trwy gydol y penwythnos, gyda amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru â digonedd o weithgareddau hwyliog ac arswydus i deuluoedd sydd angen mynd i ddigwyddiadau funud olaf!
Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac a drefnir gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, yn gwneud diwylliant a threftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb wrth ddatblygu gweithgareddau rhad ac am ddim neu fforddiadwy.
Gweithgareddau am ddim
Llyfrynnau Calan Gaeaf – ar gael yn y rhan fwyaf o’n hamgueddfeydd ond y cyntaf i’r felin! Yn archwilio hanes Calan Gaeaf a thraddodiadau ledled y byd, gyda chwilai & helfa ysbrydion. Gwiriwch o flaen llaw gyda’ch amgueddfa leol!
Llwybr Pwmpenni a llawer mwy – Amgueddfa Llandudno, mynediad am ddim tan 1 Tachwedd.
Pwmpen Arswydus a mwy – Amgueddfa Syr Henry Jones, 10am-4pm ar 31 Hydref. Gweithgaredd crefft gyda’r artist Wendy Couling – am ddim.
Calan Gaeaf yn yr Amgueddfa – Peintio wynebau, gwneud bathodynnau a chwisiau yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro, 10am-4pm bob dydd tan 31 Hydref.
Gweithdy Gwehyddu Helygen Ddrwg – Canolfan Ymwelwyr Pont Gludo Casnewydd, 10am-1pm ar 31 Hydref. Darganfyddwch Fasgedi Mawr Pont Gludo Casnewydd.
Gweithgareddau fforddiadwy
Hwyl Calan Gaeaf Hanner Tymor – Amgueddfa Porthcawl, 11am-3pm bob dydd tan 1 Tachwedd. (Plant – £1 Oedolion – £3)
Y Llwybr Diod Hud – Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, 10am-5pm bob dydd tan 2 Tachwedd. (£2.50 y plentyn)
Croeso i Gggggymru – Amgueddfa Pontypridd, dwy sesiwn am 11am-12pm ac 1pm-2pm ar 31 Hydref. £2 y sesiwn, angen archebu.
Pypedau Cysgod Ffantasi Ffantasmagoraidd ac Animeiddio – Oriel Glynn Vivian, pedair sesiwn rhwng 10:30am-4pm ar 31 Hydref, gan gynnwys gweithdy tawel. (Plant – £3 ond rhaid archebu.)
Sesiynau Calan Gaeaf & Teithiau Tortsh – Amgueddfa Carchar Rhuthun, 11am-8pm bob dydd tan 31 Hydref, teithiau o 6pm i blant hŷn ac oedolion. Y gweithgareddau yn rhan o’r pris mynediad.
Felly p’un a ydych chi’n cynllunio o flaen llaw neu’n gwneud trefniadau funud olaf, mae digonedd o hud Calan Gaeaf ar ôl i chi fwynhau yn amgueddfeydd ac orielau Cymru!
Calan Gaeaf Hapus i chi oll!