Amgueddfa Dros Dro: Archwilio | Creu | Darganfod

Amgueddfa Ceredigion @ Y Bandstand
Hydref 27, 2026 – Hydref 29, 2026
11:00 am - 4:00 pm


Gweithdai i deuluoedd @ Y Bandstand

Crefftau Arswydus a Thriciau Eco-gyfeillgar
Dydd Mawrth 27ain Hydref, 11yb – 4yp
Byddwch yn greadigol yr hydref hwn! Galwch heibio i greu pethau arswydus o ddeunyddiau naturiol, ac yna ymwelwch â’n Eco-ganolfan i gael awgrymiadau hwylus ar sut i Atgyweirio, Ailddefnyddio, Ailbwrpasu a Rhannu.
AM DDIM

Darganfyddwch Fyd yr Ystlumod
Dydd Mercher 28ain Hydref, 11yb – 4yp
Gwyliwch arddangosiadau o sut i wneud blychau ystlumod, casglwch awgrymiadau i wneud un eich hun, ac yna byddwch yn greadigol wrth wneud pethau arswydus gan ddefnyddio deunyddiau naturiol.
AM DDIM

Crefftau Arswydus a Choginio a Phwmpenni!
Dydd Iau 29ain Hydref, 11yb – 4yp
Byddwch yn greadigol y Calan Gaeaf hwn! Crëwch bethau arswydus o ddeunyddiau naturiol, ac yna ymunwch ag Ein Cegin i ddysgu sut i wneud bara gwastad blasus wedi’i lenwi â phwmpen.
AM DDIM

Amgueddfa Ceredigion @ Y Bandstand

Aberystwyth Bandstand, Marine Terrace, Aberystwyth, UK