Rhedeg yr Inclen Cludo Llechi

Amgueddfa Lechi Cymru
Hydref 28, 2026
12:30 pm - 4:00 pm

Dewch i weld yr inclen cludo llechi ar waith!

Ydych chi erioed wedi meddwl sut oedd y chwarelwyr yn cael y llechi i lawr y mynydd at y trenau? Yr ateb yw – gyda inclenau!  

Llwythid y llechi ar wagenni a fyddai’n trafeilio i lawr yr inclein ar gledrau at y gwaelod, lle caent eu gwagio. Byddaigwrthbwys wedyn yn tynnu’r wagenni gweigion yn ôl i fyny’r inclein a byddai’r broses yn cychwyn eto!  

Adeiladwyd Inclein Vivian rhwng 1873 – 1877. Cafodd y darn V2 ei hadfer yn 1998, diolch i grant gan GronfaDreftadaeth y Loteri. Dyma’r unig inclein cludo llechi gweithiol ym Mhrydain heddiw!  

Lleolir yr inclein ym Mharc Gwledig Padarn. I gyrraedd, ewch heibio gorsaf Rheilffordd y Llyn a dilyn y llwybyr. 

Fydd arddangosiadau o’r inclen yn mynd ymlaen am un awr am 12.30yp a 3.00yp

https://amgueddfa.cymru/llechi/digwyddiadau/12674/Rhedeg-yr-Inclen-Cludo-Llechi

Amgueddfa Lechi Cymru

Llanberis, Caernarfon LL55 4TY, UK