Dewch ar antur ddirgel a hwyliog yng nghwmni Lowri Siôn wrth i ni geisio datrys Dirgelwch y Gath Ddu!
Mae’r sesiwn yn cyfuno adrodd stori, cerddoriaeth, symud a hwiangerddi adnabyddus i greu profiad Calan Gaeaf hwyliog a rhyngweithiol. Bydd y plant yn cael cyfle i ddefnyddio eu dychymyg, symud, chwilio am gliwiau a helpu i ddatrys y dirgelwch.
Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio i gyflwyno awyrgylch hudolus a chyffrous Calan Gaeaf mewn ffordd hwyliog a chyfeillgar i blant bach, heb fod yn rhy frawychus! 🐈⬛🎃
Mae’r sesiwn rhyngweithiol yma yn para tua 40 munud o hyd.
Mae tocynnau plant yn £2.00 ac yn cynnwys cacen a diod feddal.
Noder fod angen i rieni neu ofalwyr gael eu tocyn(au) eu hunain ar gyfer y digwyddiad hwn. Gofynnwn yn garedig iddynt aros gyda’r plentyn neu’r plant sydd yn eu gofal drwy gydol y digwyddiad.
**Digwyddiad Saesneg ar gyfer plant 3-7 oed**
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Penglais Road, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU, UK